(Dafydd Iwan - Cyhoeddiadau Sain)
1. Dwyt ti'n cofio Macsen, does neb yn ei nabod o;
Mae mil a chwe chant o flynyddoedd yn amser rhy hir i'r co';
Pan aeth Magnus Maximus o Gymru yn y flwyddyn tri-chant-wyth-tri,
A'n gadael yn genedl gyfan, a heddiw: wele ni!
Cytgan : Ry'n ni yma o hyd, ry'n ni yma o hyd,
Er gwaetha pawb a phopeth, er gwaetha pawb a phopeth,
Ry'n ni yma o hyd.
2. Chwythed y gwynt o'r Dwyrain, rhued y storm o'r môr,
Hollted y mellt yr wybren a gwaedded y daran encôr,
Llifed dagrau'r gwangalon a llyfed y taeog y llawr,
Er dued yw'r fagddu o'n cwmpas ry'n ni'n barod am doriad y wawr!
(Cytgan)
3, Cofiwn i Facsen Wledig adael ein gwlad yn un darn
A bloeddiwn gerbron y gwledydd, "Mi fyddwn yma tan Ddydd y Farn!"
Er gwaetha pob Dic Sion Dafydd, er gwaetha 'rhen Fagi a'i chriw,
Byddwn yma hyd ddiwedd amser, a bydd yr iaith Gymraeg yn fyw!
(Cytgan)