|
Post by derynglas on Aug 17, 2019 9:15:25 GMT
Gem dda iawn ar Stadiwn Kymco neithiwr yn fyw ar sgorio. Penybont oedd y tim gorau yn yr hanner gynta yn ei gem cyntaf eirioed yn yr Uwch gyngrair. Mynd ar y blaen gynnar yn yr ail hanner cic or smotyn gan Kane Owen. Barri yn chwarae yn dda iawn gweddill y gem yn erbyn y gwynt ar glaw. Gol dda unigol gan Kayne Mclaggon yn unioni a cracer gan Jonathan Hood yn rhoir pwyntiau ir Barri. Barri yn dechrair tymor yn gryf a falle yn herio ar y brig eto. Penybont yn dangos efallai yn brwydro am lle yn y chwech ucha ar y dangosiad hwn performiad da iawn.
|
|
|
Post by derynglas on Aug 17, 2019 9:37:14 GMT
Fydd CPD Dinas Bangor yn chwarae yn Cyngrair JD y gogledd ar ol y cyfan wedi ennill ei apel ddoe ond yn dechrau y tymor ar -3. Yn y cyfamser fydd CPD Bangor 1876 FC ,clwb wedi sefydli gan y cefnogwyr, yn chwarae yn cyngrair Gwynedd. Fydd yn ddiddorol gweld pwy torfeydd fydd y ddau clwb yn cael a pa clwb fydd y 'fanbase' yn dilun.
|
|
|
Post by claretcymro on Aug 23, 2019 22:41:40 GMT
Newydd ddod yn ol o weld Y Bala yn curo y Seintiau Newydd 3 - 1. Er fod y canlyniad yn annisgwyl, mae'n debyg, roedd yn hollol haeddianol. Y Seintiau oedd y tim gorau yn yr hanner cynta ac yn haeddu mynd i fewn un i fynny ond ar ol yr egwyl llwyddodd Y Bala gau y pencampwyr i lawr yn llawer gwell.Sgoriwyd pob un o dair gol Y Bala o giciau cornel a roeddynt hefyd wedi penio yn erbyn y traws ddwywaith yn yr hanner cynta. Nifer o wynebau newydd yn nhim Y Bala a fe gafwyd perfformiadau da iawn gan y golgeidwad ifanc Tibbetts a'r chwaraewr canol cae Mendes yn ogystal a'r cefnwyr canol Stuart Jones a Stephens.Felly ar ol dwy gem dim ond Y Bala a'r Barri sydd a pwyntiau llawn.
|
|
|
Post by claretcymro on Aug 30, 2019 23:28:51 GMT
Trip arall i Faes Tegid heno a gweld Cei Connah yn cymeryd y tri pwynt fel canlyniad i beniad Michael Wilde.Y Bala yn colli ei lle ar frig y gynghrair yn dilyn y golled yma a'r Barri a Met Caerdydd yn ennill ei gemau nhw.
|
|
|
Post by Toffeeman on Sept 13, 2019 12:19:16 GMT
'Gem enfawr lleol heno' Langefni v Dinas Bangor (nid 1876) am 7.30.
Neu ddim yn gem mor lleol a hynny gan cysidro'r elfen Eidaleg gan Fangor.
|
|
|
Post by derynglas on Sept 14, 2019 8:38:34 GMT
Man debyg fod Bangor wedi ennill 1-0 neithiwr ac nawr yn 5fed yn Cyngrair JD y Gogledd.
Adroddiadau dechrau mis hwn bod yr Eidalwr Domenico Serafino a consortium wedi cymrud dros y clwb a wedi prynu shares Vaughan Sports Managment. Er bod Steve Vaughan dal I fod yn rheolwr y tim cyntaf.
Pethau yn dangos eitha da ar y cae felly. Heb weld unrhyw adroddiadau faint o gefnogaeth Sydd gan y clwb I gymhary ar clwb Newydd Bangor 1876.
|
|
|
Post by claretcymro on Sept 14, 2019 19:57:46 GMT
Fe welais Bangor yn chwarae yn Porthmadog pythefnos yn ol ac ychydig iawn o'i cefnogwyr oedd i weld yna - gwahanol iawn i sut oedd pethau yn y gorffennol.Fel arfer Cymraeg a Saesneg sydd i'w glywed yn ystod gemau ar y Traeth ond yn y gem hon roedd llawer mwy o Eidaleg i'w glywed na Saesneg!
|
|
|
Post by rico on Sept 17, 2019 12:52:37 GMT
Ramsey on loan i Fangor yn y dyfodol fellu? Bydd e'n ffitio i mewn ar ol sbel yn yr Eidal?!
Neis i weld agos i 500 yn wylio'r Met vs TNS neithwr.
Mae'r uwch gynghrair'n edrych yn gystadleuol eto y dymor hwn. (ar hyn o bryd)
|
|
|
Post by rico on Sept 23, 2019 16:51:43 GMT
Barry ar y brig ac yn edrych yn gryf.. Gem fawr ar dydd Sadwrn yn erbyn TNS.
|
|
|
Post by derynglas on Oct 5, 2019 9:07:23 GMT
Rhaid bod Caernarfon yn ymgeision go iawn am y gyngrair ar ol ennill yn erbyn y Seintiau neithiwr.
Agos iawn yn yr hanner uchaf gyda dim ond 5 pwynt rhwng y 6 tim.
Fydd unrhyw un or 6 yn credu gella nw fod yn y ras am y brig.
Oedd y Seintiau Newydd ynsefyllfa tebyg blwyddyn yn nol cyn mynd ar rhediad anhygoel yn Tachwedd ac ennill bron bob gem hyd diwedd y tymor. Mae hynnu yn bosib eleni wrth gwrs on fydd yn mwy annodd iddyn nw a mwy agos eleni yn fy marn, gyda Barri yn fefrynnau,gan trwch blewyn,ar y foment hon.
|
|
|
Post by claretcymro on Nov 2, 2019 20:30:50 GMT
Canlyniad gwych i Gaernarfon yn erbyn Y Barri y pnawn yma o flaen torf sylweddol ar yr Oval. Criw o gefnogwyr brwdfrydig (a swnllyd) Y Barri wedi gwneud y siwrne hir o'r de. Sefyllfa ddiddorol iawn ar frig y gynghrair.
|
|
|
Post by derynglas on Dec 15, 2019 19:19:13 GMT
Gem dda iawn yn tywydd erchyll yn Dol y Bont Hwlffordd ddoe. Pontypridd cyrraedd 4 or gwaelod ond fuan yn dangos fydda hon ddim yn gem hawdd I Hwlffordd oedd yn 3edd. Ponty ar y blaen ar hanner amser gol o bellder gan Vaughan Fowler. Fawcett yn unioni ir tim cartref gynar yn yr ail hanner a Miles John yn rhoi nw ar y blaen Yr ymwelwyr yn unioni ar 88 munud gyda gol arall o tu faes y bocs ar ol cornel,gan Bloom. Dangos falle bod wedi sicrhau pwynt reit ar y diwedd. Ond Jack Wilson yn cael y bel ar yr ystlys chwith, torri mewn a gwiror bel ir cornel ucha am diweddglo dramatic iawn ar dorf yn mynd adre yn hapus fod wedi troi mas yn tywydd mor wael. Felly Hwlffordd ar brig Cyngrair JD y de 2 bwynt o flaen Britton Ferry Llansawel sydd wedi chwarae un gem yn fwy a 5 o flaen Prif Ysgol Abertawe yr ymwelwyr nesaf I Dol Y Bont, nos Fawrth.Gem enfawr,os gall Hwlffordd gael y 3 pwynt fydda nw yn fefrynnau am dyrchafiad ir Prif Cyngrair
|
|
|
Post by cadno on Dec 16, 2019 11:30:39 GMT
Dwi'n golygu mynd i weld Caerfyrddin penwythnos nesaf am y tro gynta tymor yma, ac efallai ar y 26ain, gem bwysig yn erbyn Pen-Y-Bont.
21/12 - Caerfyrddin-Caernarfon. 26/12 - Caerfyrddin-Pen-Y-Bont.
|
|
|
Post by derynglas on Dec 21, 2019 9:19:46 GMT
Tipyn o shoc ar Neuadd y Parc neithiwr gyda Met Caerdydd yn mynd ar pwyntiau 2-1 yn erbyn y Seintiau yn fyw ar S4C. Efallai ddim gymaint o shoc gan fod y Met wedi mynd 6 gem heb golli yn erbyn y pencampwyr a heb golli erbyn nw yn y gyngrair oddar Hydref 2017. Chwarae 3 yn y cefn,ddim eistedd nol a mynd ar gem ir gwrthwynebwyr ar Seintiau unwaith eto methu ymdopi , 3 pwynt hollol haeddianol ir myfyrwyr.Tactegau spot on gan Christian Edwards. Y Seintiau yn dangos yn anorchfygol ar adegau a eisioes wedi sgorio 12 yn erbyn Brychdyn a 10 yn Aber,ond ar y llaw arall wedi colli 4 felly maen bosib ennill yn eu erbyn. Y pencampwriaeth dal yn agored felly gyda 4 efallai 5 clWb gyda gobeithion. Carnarfon yn 5fed ond 2 gem wrth law 2 bwynt or brig os ennill y 2. Tra wahanol yn Lloegr!
|
|
|
Post by derynglas on Jan 25, 2020 11:04:16 GMT
Caernarfon yn camu mlaen yn cwpan cymry ar ol ennill yn y rownd o 16 neithiwr ar y Rec Rhydaman o flaen camerau s4c. Gavin Jones a siawns dda ir tim cartref ar ol dwy funud ond Alex Ramsay yn arbedio. Cofis yn cymryd dros wedyn a goliau gan Sion Bradley,2 gan Darren Thomas,a Noah Edwards.
Torf dda iawn o 1200 sydd yn dangos cynnydd clwb Rhydaman yn y blynyddoedd diwetha. Dilyniad da iawn o Cofis yn y gem hefyd yn creu awyrgyll da. Un agwedd diddorol yw bod yr FAW wedi newid rheolau a bod chwaraeywr nawr yn gallu chwarae i 2 glwb yn cwpan Cymru mewn un tymor.Felly chwaraeodd Luke Borrelli i Rhydaman neithiwr er bod wedi chwarae i gyn glwb Penybont yn yr un cystadleuaeth gynharach yn y tymor cyn gael trosglwyddo rhai wythnosau yn ol. Penderfyniad dadlaeol gan yr FAW ar cymdeuthas pel droed cyntaf i wneud hyn hyd a bod fi yn gwybod.
Efallai bod hyn yn neud mwy o synnwyr tra bod ni yn oes y ffenestr trosglwyddo a chwaraewyr methu symud eto ar ol ir ffenestr gau ar diwedd ionawr.
|
|
|
Post by derynglas on Feb 16, 2020 10:39:19 GMT
Cei Connah ar y brig ar ol canlyniadau nos Wener. Y Seintiau yn cael pwynt yn Bala eisioes wedi colli 5 gem y tymor hwn. Y tro diwetha iddi nw ennill y gyngrair ar ol colli 5 gem oed ugain mlynedd yn ol,2000, pan oedd 18 tim yn y gyngrair a 34 gem, 2 mwy na nawr. Dal i edrych yn gryf a yr ras yn rhy agos i alw ar y foment hon. Gem enfawr yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy nos wener nesa,cyntaf erbyn ail,fyw ar S4C. Fydd yr enillydd gyda tipyn o fantais gyda 7 gem ar ol ond ddim sicrwydd. O leia fydd un or ddau yn cyngrair y Pencampwyr tymor nesa,ond ddim Manchester City!
|
|
|
Post by maelor on Feb 20, 2020 22:14:47 GMT
Cei Connah ar y brig ar ol canlyniadau nos Wener. Y Seintiau yn cael pwynt yn Bala eisioes wedi colli 5 gem y tymor hwn. Y tro diwetha iddi nw ennill y gyngrair ar ol colli 5 gem oed ugain mlynedd yn ol,2000, pan oedd 18 tim yn y gyngrair a 34 gem, 2 mwy na nawr. Dal i edrych yn gryf a yr ras yn rhy agos i alw ar y foment hon. Gem enfawr yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy nos wener nesa,cyntaf erbyn ail,fyw ar S4C. Fydd yr enillydd gyda tipyn o fantais gyda 7 gem ar ol ond ddim sicrwydd. O leia fydd un or ddau yn cyngrair y Pencampwyr tymor nesa,ond ddim Manchester City! Ie, dylai honna fod yn dipyn o gêm nos Wener. Gobeithio bydd na dorf deilwng ene.
|
|
|
Post by derynglas on Mar 1, 2020 10:28:06 GMT
Gyda Prestatyn weddol siwr oi lle yn y prif gyngrair tymor nesa,pwy fydd yn ymuno nw or de? Hwlffordd a Prifysgol Abertawe yn brwydro am y safle dyrchafiad. Y ddau clwb yn cael gem gyfartal yn Park Sketty ddoe. Amodau yn anodd gyda oerfel a gwynt cryf ond gwyrth boid y gem ymlaen ar ol cyflwr y cae Nos wener ar glaw dros nos. Hwlffordd yn chwarae gydar gwynt yn yr hanner cyntaf ond Abertawe yn mynd ymlaen gyda gol gan Arion Sobers-Assue,fally just yn haeddi. Hwlffordd yn chwarae lot yn well yn erbyn y gwynt a creu cyfle ar ol cyfle nes i Ben Fawcett yn cael y gol holl bwysig ar ol 73 munud. Abertawe 4 pwynt ar y blaen nawr ond gem wrth law gyda Hwlffordd. Gemau mwy anodd gydar brifysgol dal i chwarae STM a Cambrian & Clydach,Hwlffordd ddim yn chwarae yn erbyn unrhyw un yn yr hanner uchaf,ond dwy gatre mas o 6.Record Hwlffordd bant o gatre yn dda felly ddim yn broblem enfawr.Rhy agos i galw.
|
|
|
Post by derynglas on Aug 9, 2020 12:08:29 GMT
Enwau allan or het bore ma am dau o clybiau ni syn chwarae yn Ewrop eleni.
Pencampwyr Cei Connah yn chwarae yn erbyn F K Sarajevo o Bosnia yn Stadiwm Dinas Caerdydd
(heb dorf) ar Awst 18 neu 19 yn rownd rhagbrofol Cyngrair y pencampwyr.
Fydd Barri yn teithio i NSI Runavic yn ynysoedd y Faro ar Awst 20 yn rownd cyn rhagbrofol
Cyngrair Europa.Gemau un cymal.
|
|