|
Post by mrpicton on Sept 27, 2019 10:58:33 GMT
Yn meddwl edrych i fewn ir peth ond ddim am fynd heb docyn i' gem. Faint o docynnau ydym yn debygol o gael?
Dwi ddim yn cofio cael ebost gan y gymdeithas yn gofyn a oes ddiddordeb gennyf?
|
|
|
Post by derynglas on Sept 27, 2019 16:06:07 GMT
Ni yn cael 1200 tocyn. Tocynnau ar werth o Hydref 1-5. Maer info ar gael ar twitter FA WALES.
|
|
|
Post by mrpicton on Sept 28, 2019 10:19:58 GMT
Ia wedi gweld hyn. Wedi sylwi nad yw tocyn ar gyfer y gem Slofacia yn gyfri so rydym ni lawr i "Stage 7" - tua ~2500 o'n blaen ni? Efallai bod llai o ddiddordeb gan bod rhai wedi bod o'r blaen?
|
|
|
Post by pendragon on Sept 28, 2019 18:25:39 GMT
Sut fath wlad ydy hi i fynd i weld pêl droed? Unrhyw un arall wedi bod? Ydy hi'n ddiogel? Strict gyda côd ymddygiad a gwisg?
Dim ond holi am fy mod yn ystyried gwneud cais am docyn os fyddai'n gymwys.
|
|
|
Post by claretcymro on Sept 28, 2019 20:15:13 GMT
Mae 4 ohonom yn gwneud taith i Kiev,Tbilisi,Baku ac yn ol drwy Istanbul.Gobeithio y bydd pawb yn medru cael tocyn.
|
|
|
Post by mrpicton on Sept 29, 2019 14:07:20 GMT
Sut fath wlad ydy hi i fynd i weld pêl droed? Unrhyw un arall wedi bod? Ydy hi'n ddiogel? Strict gyda côd ymddygiad a gwisg? Dim ond holi am fy mod yn ystyried gwneud cais am docyn os fyddai'n gymwys. Rioed wedi bod yna - ond yn meddwl mynd (aros am ganiatad gan y Wraig!!!). 80 ceiniog y peint yn ol bob son!
|
|
|
Post by mrpicton on Sept 29, 2019 14:10:18 GMT
Mae 4 ohonom yn gwneud taith i Kiev,Tbilisi,Baku ac yn ol drwy Istanbul.Gobeithio y bydd pawb yn medru cael tocyn. Dipyn o daith pan yn newid mewn dau ddinas. Yn ol skyscanner mae modd mynd am £360 o Heathrow stopio yn Mosco - 10-12 awr bod ffordd.
|
|
|
Post by pendragon on Sept 29, 2019 16:07:19 GMT
Sut fath wlad ydy hi i fynd i weld pêl droed? Unrhyw un arall wedi bod? Ydy hi'n ddiogel? Strict gyda côd ymddygiad a gwisg? Dim ond holi am fy mod yn ystyried gwneud cais am docyn os fyddai'n gymwys. 80 ceiniog y peint yn ol bob son! Reit, Skyscanner amdani! 😂
|
|
|
Post by claretcymro on Sept 29, 2019 20:08:37 GMT
Mae 4 ohonom yn gwneud taith i Kiev,Tbilisi,Baku ac yn ol drwy Istanbul.Gobeithio y bydd pawb yn medru cael tocyn. Dipyn o daith pan yn newid mewn dau ddinas. Yn ol skyscanner mae modd mynd am £360 o Heathrow stopio yn Mosco - 10-12 awr bod ffordd. Un noson yn Kiev, dwy noson yn Tbilisi, tair noson yn Baku ac un noson yn Istanbul.
|
|
|
Post by mrpicton on Sept 30, 2019 11:22:57 GMT
Dipyn o daith pan yn newid mewn dau ddinas. Yn ol skyscanner mae modd mynd am £360 o Heathrow stopio yn Mosco - 10-12 awr bod ffordd. Un noson yn Kiev, dwy noson yn Tbilisi, tair noson yn Baku ac un noson yn Istanbul. Un noson yn Kiev, dwy noson yn Tbilisi, tair noson yn Baku ac un noson yn Istanbul - wel am daith. Hoffi dinas Tiblisi
|
|
|
Post by mrpicton on Oct 3, 2019 14:13:24 GMT
Wedi penderfynu mynd ac newydd gael tocynnau am y gem.
|
|
|
Post by claretcymro on Oct 4, 2019 14:21:16 GMT
Wedi penderfynu mynd ac newydd gael tocynnau am y gem. Newydd gael ticedi i'r ddau yn ein grwp sydd heb fod ar drip i ffwrdd ers talwm a pawb wedi cael visas.Edrych ymlaen rwan.
|
|
|
Post by mrpicton on Oct 4, 2019 15:50:08 GMT
Wedi penderfynu mynd ac newydd gael tocynnau am y gem. Newydd gael ticedi i'r ddau yn ein grwp sydd heb fod ar drip i ffwrdd ers talwm a pawb wedi cael visas.Edrych ymlaen rwan. Faint o amser wnaeth y visas gymryd? - a oes rhai bwcio llety ar mwyn cael y visa?
|
|
|
Post by claretcymro on Oct 4, 2019 16:53:47 GMT
Newydd gael ticedi i'r ddau yn ein grwp sydd heb fod ar drip i ffwrdd ers talwm a pawb wedi cael visas.Edrych ymlaen rwan. Faint o amser wnaeth y visas gymryd? - a oes rhai bwcio llety ar mwyn cael y visa? Llai na 2 ddiwrnod gymerodd y visa i ddod. Dyma cyfeiriad y wefan swyddogol - www.evisa.gov.az - a mae'n costio $US23. Mae na nifer o gwmniau yn cynnig cael visas i bobl ar lein ond mae rhain yn codi dipyn go lew o arian am wneud y job.Defnyddia y wefan swyddogol - mae'n broses reit hawdd i ddilyn. Gyda llaw maen't yn gofyn am dy gyfeiriad yn Azerbaijan ar y ffurflen gais. Os ydych chi yn mynd trwy Istanbul ac yn aros yna bydd angen visa Twrci hefyd ond os ydych ond yn newid awyren a ddim yn gadael y maes awyr tydwi ddim yn siwr beth yw'r sefyllfa.Os bydd angen visa Twrci dyma'r wefan - www.evisa.gov.tr/en
|
|
|
Post by mrpicton on Oct 4, 2019 19:21:44 GMT
Faint o amser wnaeth y visas gymryd? - a oes rhai bwcio llety ar mwyn cael y visa? Llai na 2 ddiwrnod gymerodd y visa i ddod. Dyma cyfeiriad y wefan swyddogol - www.evisa.gov.az - a mae'n costio $US23. Mae na nifer o gwmniau yn cynnig cael visas i bobl ar lein ond mae rhain yn codi dipyn go lew o arian am wneud y job.Defnyddia y wefan swyddogol - mae'n broses reit hawdd i ddilyn. Gyda llaw maen't yn gofyn am dy gyfeiriad yn Azerbaijan ar y ffurflen gais. Os ydych chi yn mynd trwy Istanbul ac yn aros yna bydd angen visa Twrci hefyd ond os ydych ond yn newid awyren a ddim yn gadael y maes awyr tydwi ddim yn siwr beth yw'r sefyllfa.Os bydd angen visa Twrci dyma'r wefan - www.evisa.gov.tr/en Diolch am y wybodaeth - heb di sortio lle aros na awyren eto, ond mwy na thebyg yn mynd drwy Mosgo.
|
|