|
Post by mrpicton on Nov 22, 2019 16:16:47 GMT
Pa grwp hoffech i gael? Grwp A Rhufain a Bacw x2 (Eidal +?) neu Grwp B Copenhagen a St. Petersburg x2 (Belg, Rwsia & Denmarc)?
|
|
|
Post by pendragon on Nov 22, 2019 16:46:40 GMT
Dibynnu pwy arall fydd yn grwp A!
Ddim yn hoffi gwynebu Gwlad y Belg a Denmarc yn grwp B fel mae pethau yn sefyll!
Gawn weld pwy arall fydd yn Grwp A... ond os yda ni'n gorfod chwarae yn Baku, dwi'n amau efalle fydd hi'n hawsach cael tocyn!
|
|
|
Post by maelor on Nov 22, 2019 23:05:52 GMT
O ran yr elfen dwristaidd llawer gwell gen i Grŵp B - heb fod i Copenhagen na St Petersburg o'r blaen ac maen nhw'n llefydd diddorol n ôl pob golwg. Ond o ran cael y cyfle gorau i fynd ymlaen i'r rownd nesaf mae Grŵp A yn llawer gwell yn fy marn i. Basai chwarae Denmarc a Rwsia oddi cartre a Gwlad Belg ar ben hynny yn ei gwneud hi'n anodd iawn i ni fynd trwodd.
Felly, gan fod ystyriaethau pêl-droed bob tro'n curo ystyriaethau twristaidd, Grŵp A i mi
|
|
|
Post by derynglas on Nov 23, 2019 11:19:41 GMT
Grwp A -Bacu a Rhufain.Heb fod yn Bacu,wedi bod yn yr Eidal on ddim Rhufain. Y peth gorau fydai chwarae yn Rhufain yn gem gyntaf y Euros. LLetwith os Rhufain ywr gem ganol,ddim un eisiau teithio i r Eidal a nol. Ond gydar ddau stadiwn anferth pob gobaith o gael tocyn ir 3 gem sydd yn bwisyg iawn. Dewis fi yw hwn felly.
Grwp B- Copenhagen a Sr Petersburg.Wedi bod yn Denmark llynedd,heb fod yn Rwssia, ond gwell da fi Azerbaijan ar Eidal fel trip Fydd y grwp yn anodd iawn,Denmark a Rwssia "i ffwrdd",a Gwlad Belg. Faith bod ni wedi chwarae Rwssia a Belg tro diwetha hefyd,eisiau chwarae gwledydd wahanol,a mwy anodd i galel tocyn.
Felly grwp A i fi trwr dydd!
|
|
|
Post by claretcymro on Nov 23, 2019 18:03:40 GMT
Tan rydym yn gwybod pwy yw'r ddwy wlad arall yn Grwp A - Ffrainc a Portiwgal efallai - mae'n anodd dweud pa un o'r grwpiau sydd orau i Gymru.Erioed wedi bod yn Rwsia ond yn Baku yr wythnos diwethaf,aros yn Copenhagen ar gyfer y gem yn Aarhus ac yn Rhufain am gwpwl o ddyddiau ar y ffordd i Albania ar gyfer y gem gyfeillgar llynedd.Pa bynnag grwp bydd Cymru ynddo gobeithio y byddant yn chwarae dwy gem yn olynol yn Baku neu St Petersburg.Mae digon o opsiynau teithio - hedfan,trenau,llongau,bysiau -rhwng Copenhagen a St Petersburg ond belled a medrai weld does yr un flight uniongyrchol rhwng Rhufain a Baku.
|
|
|
Post by derynglas on Nov 24, 2019 12:36:26 GMT
Diddorol.Dwi wastod yn trio osgoi hedfan ar fy trips. Es i Slofacia ar y tren mis diwetha,er oedd y lleill yn fy grwp wedi hedfan. Weles i holl gemau ni yn Ffrainc gyda trenau a ddim hedfan. Wedi gweld bod hin bosib mynd o Copenhagen i St Petersburg weddol hawdd. Tren i Stockholm,wedyn ferry i Helsinki,Wedyn tren just rhai oriau i St Petersburg. Mae hyn yn apelio yn fawr. Mae tren i Azerbaijan yn tua 4 diwrnod!Fyddaun bosib mynd i Rhufain ond fyddai rhaid hedfan gweddill or trips i Baku a nol. Felly rwi wedi newyd fy meddwl a falle o rhan teithio ar trip falle fydd grwp B yn ogystal neu falle rhwyfaint yn well. Maer grwp yn anodd wrth gwrs ond efallai fydd grwp A yn fwy anodd.
|
|
|
Post by mrpicton on Nov 25, 2019 13:12:01 GMT
I fi yn agos iawn rhwng y ddau ar hyn bryd Grwp A Rhufain/Bacw - yn nhermau peldoed siawns o gael grwp gwell na Grwp B (ond gallai fod jest mor anodd). Hawddach i gael ticedi ar gyfer gemau yn Bacw. Grwp B Copenhagen/St. Petersburg - hawdach trafeilio ac dwi heb di bod i St. Petersburg or blaen.
I ddweud y gwir byddaf yn hapus rhyw ffordd - beth fyddaf ddim yn hapus os fydd y drefn yn Bacw-Rhufain-Bacw neu St. P-Copenhagen-St. P
|
|
|
Post by TheWelshWay on Nov 25, 2019 15:26:51 GMT
Cytuno - hapus efo unrhyw un ac heb fod yn Baku na St Peterberg felly fyddai sicr yn y ddwy gem yn un o rhai yna a gweld sut ma'r fixtures yn edrych ym y gem arall .
|
|
|
Post by cadno on Nov 26, 2019 16:52:53 GMT
Grwp B. Rhatach a dwi heb fod i St Petersburg.
Gobeitho bydd y gemau'n cwympo'n gaeredig, a bod ddim angen teithio nol ac ymlaen.
|
|