|
Post by mrpicton on Jan 30, 2020 12:50:41 GMT
Pa rhai fyddech chi yn ei gymryd i'r Ewros? Ydi Giggs yn debygol fynd a 3 ymosodwr? Mae Moore yn sicr oi le (os yn ffit!) ond pwy arall?
Vokes Roberts HRK Lawrence Doidge... Neu rhywun arall?
|
|
|
Post by derynglas on Jan 31, 2020 1:13:26 GMT
Fydde yn dda I weld Doidge a Bradshaw yn cael siawns yn y gemau cyfeillgar. Y ddau wedi dechrau ei gyrfa yn Cyngrair Cymru,a tymor hwn wedi sgorio lot mwy o golie na ymosodwyr arall ni. Da I gael chwaraewyr fel hyn ar y fainc pan mae angen gol. Efallai y tri fydd Moore,Vokes,Doidge a fydda yn sioc gan fod Doidge erioed wedi bod yn y garfan. Ond oedd dyfodiad Moore yn anisgwyl hefyd.
.
|
|
|
Post by mrpicton on Feb 3, 2020 13:13:53 GMT
Doidge yn sgorio eto - yn sicr mae angen trio ef yn erbyn Awstria neu UDA (mae llawer ddim yn siwr amdano gan ei fod yn chwarae yn yr Alban).
Fel rhif 9 - diw'n gweld Moore, Vokes, Doidge new HRK (Bale os oes angen) Fel rhif 10 mae Lawrence, Bradshaw a Roberts - felly mae siawns i rhain ennill lle fel chwaraewr fwy dwfn (canol cae).
Y dewis yw rhif 9 - efallai mae dim on dau o'r rhain wnaiff Giggs ei ddewis. Yn bersonnol dwi'n gweld Vokes yn colli allan a'r dewis rhwng Doidge a HRK. Ar hyn o bryd mae HRK yn "ennill" ond mae amser i Doidge ddisgleirio i Gymru.
|
|
|
Post by barry on Feb 9, 2020 15:37:33 GMT
Moore, Roberts, Vokes am rhif naw.
Vokes fel eilydd i Moore os wedi anafu. Roberts i newyd y system.
|
|
|
Post by TheWelshWay on Feb 12, 2020 9:27:14 GMT
Moore, HRK a Lawrence i fi
|
|
|
Post by mrpicton on Feb 12, 2020 12:34:58 GMT
Fel cymhariaeth, yn Ewro 2016 (23 yn y garfan) roedd gennym Bale HRK Vokes Church & Cotterill
Cyn dewis y 23 roedd y garfan o 29 yn cynnwys Wes Burns (ble mae on nawr), Lawrence a Bradshaw. Os diw'n cofio'n iawn mi gafodd Bradshaw anaf cyn dewis y 23.
|
|