|
Post by mrpicton on May 6, 2020 19:03:09 GMT
Gobeithio fod pawb yn cadw'n iawn yn ystod yr amser rhyfedd yma.
Ydi pobl yma wedi bod yn llwyddianus gyda cael eu harian yn ol gan gwestai, cwmniau hedfan?
|
|
|
Post by maelor on May 6, 2020 21:08:52 GMT
Gobeithio fod pawb yn cadw'n iawn yn ystod yr amser rhyfedd yma. Ydi pobl yma wedi bod yn llwyddianus gyda cael eu harian yn ol gan gwestai, cwmniau hedfan? Dim eto. Wedi bod yn aros i weld a fydd yr hediadau yn cael eu canslo.
|
|
|
Post by derynglas on May 23, 2020 9:15:17 GMT
Amser rhyfedd iawn.
Yn bersonol fi oedd wedi archebu gwesty yn Rhufain am y grwp,ddim yn rhagdaliedig ac wedi canslo eitha hawdd. Hefyd y tocynnau awyren o Baku i Rhufain nawr wedi newid i tocynnau agored ac yn gallu defnyddio unrhyw amser blwyddyn nesa. Credu gydar tocynnau o LLundain i Baku fydd rhaid aros ir heidiad cael ei canslo cyn cael yr arian nol. Oedd aelodau eraill yn y grwp wedi archebu gwesty yn Baku a wedi talu,mwy cymleth efallai fydda nw yn ceisio newyd y dyddiadau i blwyddyn nesa. Ar ol Rhufain oedden i yn bwriadu teithio ar y tren a ddim hedfan ar ol hynnu felly dim mwy o heidiadau i canslo. Yn bersonol yn ystyried mynd i Baku ar y tren blwyddyn nesa,4 diwrnod a hanner,tipyn o drip! Efallai aros rhywle hanner ffordd i dorri y trip lan rhywfaint. Digon o amser i plannu a arbed arian,gobeithio fydd yr Euros yn digwydd beth bynnag.
|
|
|
Post by cymroircarn on Jun 1, 2020 6:44:27 GMT
Dwi di canslo llety Rhufain ers Mawrth a dal i aros am yr arian.
Ma fy flight EasyJet dal i fynd ar hyn o bryd....
|
|