|
Post by mrpicton on Aug 1, 2020 14:39:10 GMT
A oes rhai yma wedi ail fwcio ar gyfer flwyddyn nesaf? Rydym ni yn aros am cael arian yn ol cyn penderfynu
|
|
|
Post by sleepy on Aug 1, 2020 21:19:43 GMT
Wedi bwcio, bryste i rufain, 18th i 21st, easyjet
|
|
|
Post by mrpicton on Aug 3, 2020 9:04:54 GMT
Wedi bwcio, bryste i rufain, 18th i 21st, easyjet Wyt ti'n meddwl mynd i Bacw?
|
|
|
Post by sleepy on Aug 3, 2020 9:41:46 GMT
Wedi bwcio, bryste i rufain, 18th i 21st, easyjet Wyt ti'n meddwl mynd i Bacw? Dim ond Rhufain i fi.
|
|
|
Post by cymroircarn on Aug 3, 2020 9:48:11 GMT
Dim on Rhufain I fi hefyd
Methu mynd i baku am rhesymau teuluol etc
|
|
|
Post by cadno on Aug 3, 2020 11:42:50 GMT
Gobeitho bod pawb yn cadw'n iawn.
Ni 'di ail-bwcio llety yn Rhufain a Baku, jyst croesi bysedd bydd y twrnament mlan!
|
|
|
Post by mrpicton on Aug 3, 2020 13:16:31 GMT
Gobeitho bod pawb yn cadw'n iawn. Ni 'di ail-bwcio llety yn Rhufain a Baku, jyst croesi bysedd bydd y twrnament mlan! Mae 4 yn ein grwp ni, dau o ni yn sicr eisiau mynd flwyddyn nesaf (i Bacw a Rhufain). Y ddau arall yn 70 flwyddyn nesaf a'i gwragedd wedi bod yn "shielding" felly dydy nhw ddim mor siwr am fynd. Dwi ddim yn siwr am faint i aros cyn gwneud penderfyniad terfynnol? Efallai bydd modd mynd am "free cancellation" am y llety ond does dim modd gwneud hyn gyda'r ticedi awyren.
|
|
|
Post by sleepy on Aug 3, 2020 16:56:59 GMT
Gobeitho bod pawb yn cadw'n iawn. Ni 'di ail-bwcio llety yn Rhufain a Baku, jyst croesi bysedd bydd y twrnament mlan! Mae 4 yn ein grwp ni, dau o ni yn sicr eisiau mynd flwyddyn nesaf (i Bacw a Rhufain). Y ddau arall yn 70 flwyddyn nesaf a'i gwragedd wedi bod yn "shielding" felly dydy nhw ddim mor siwr am fynd. Dwi ddim yn siwr am faint i aros cyn gwneud penderfyniad terfynnol? Efallai bydd modd mynd am "free cancellation" am y llety ond does dim modd gwneud hyn gyda'r ticedi awyren. Os chi'n talu rhywbeth fel £150 return i Rufain, mae'n werth bwcio heb lot o risg. Os chi'n penderfynu aros gartref, dim ond £150 wedi mynd. Mae'n well bwcio single ticket os chi'n mynd i Bacw, heb booking agent.
|
|
|
Post by cadno on Aug 3, 2020 18:53:08 GMT
Gobeitho bod pawb yn cadw'n iawn. Ni 'di ail-bwcio llety yn Rhufain a Baku, jyst croesi bysedd bydd y twrnament mlan! Mae 4 yn ein grwp ni, dau o ni yn sicr eisiau mynd flwyddyn nesaf (i Bacw a Rhufain). Y ddau arall yn 70 flwyddyn nesaf a'i gwragedd wedi bod yn "shielding" felly dydy nhw ddim mor siwr am fynd. Dwi ddim yn siwr am faint i aros cyn gwneud penderfyniad terfynnol? Efallai bydd modd mynd am "free cancellation" am y llety ond does dim modd gwneud hyn gyda'r ticedi awyren. "Free cancellation" sydd gyda ni am y llety yn Rhufain a Baku! Ni heb prynnu tocynau awyren eto. Mae'n anodd gwybod beth a phryd i fwcio ar hyn o bryd. Gobeitho bydd prisau hedfan ddim yn codi yn ormodol dros y misoedd nesaf.
|
|
|
Post by cymroircarn on Aug 4, 2020 6:25:58 GMT
Ni wedi bwcio llety heb talu am Rhufain tan ni’n cyrraedd.
Dal heb cael arian yn ol ers 2020 felly am gad fy arian tan rhaid talu tro ma
|
|
|
Post by derynglas on Aug 9, 2020 12:18:25 GMT
Wedi ail bwcio y cyfan. Heidiadau i Baku a Rhufain wedi newid y dyddiadau i blwyddyn nesa.
Fyddawn yn teithio ar tren ar ol gem Rhufain.
Gwesty wedi ail trefnu yn Baku a Rhufain.
Ddim yn gweld pwynt cael arian nol ar y foment.Ddim yn gallu mynd ir gemau yn yr hydref, ddim yn mynd ir tafarn,a ddim gwyliau estron felly dim modd o gwario arian.
Dim pwynt canslor cyfan ar holl hassl o ail bookio y cyfan eto.
|
|
|
Post by maelor on Aug 10, 2020 10:38:42 GMT
Gobeitho bod pawb yn cadw'n iawn. Ni 'di ail-bwcio llety yn Rhufain a Baku, jyst croesi bysedd bydd y twrnament mlan! Mae 4 yn ein grwp ni, dau o ni yn sicr eisiau mynd flwyddyn nesaf (i Bacw a Rhufain). Y ddau arall yn 70 flwyddyn nesaf a'i gwragedd wedi bod yn "shielding" felly dydy nhw ddim mor siwr am fynd. Dwi ddim yn siwr am faint i aros cyn gwneud penderfyniad terfynnol? Efallai bydd modd mynd am "free cancellation" am y llety ond does dim modd gwneud hyn gyda'r ticedi awyren. Dyma'r cyfyng-gyngor sydd gennyn ni. Beth ydy'r peth gorau i'w wneud: 1) aros i weld beth ddigwyddith a chymryd y risg y bydd prisiau wedi codi'n aruthrol erbyn i ni fwcio neu 2) prynu (neu cyfnewid) hediadau rwan a chymryd y risg y bydd yr holl beth wedi'i ganslo yn y diwedd.
|
|
|
Post by sleepy on Aug 10, 2020 17:24:05 GMT
Mae 4 yn ein grwp ni, dau o ni yn sicr eisiau mynd flwyddyn nesaf (i Bacw a Rhufain). Y ddau arall yn 70 flwyddyn nesaf a'i gwragedd wedi bod yn "shielding" felly dydy nhw ddim mor siwr am fynd. Dwi ddim yn siwr am faint i aros cyn gwneud penderfyniad terfynnol? Efallai bydd modd mynd am "free cancellation" am y llety ond does dim modd gwneud hyn gyda'r ticedi awyren. Dyma'r cyfyng-gyngor sydd gennyn ni. Beth ydy'r peth gorau i'w wneud: 1) aros i weld beth ddigwyddith a chymryd y risg y bydd prisiau wedi codi'n aruthrol erbyn i ni fwcio neu 2) prynu (neu cyfnewid) hediadau rwan a chymryd y risg y bydd yr holl beth wedi'i ganslo yn y diwedd. Os chi'n mynd i Rufain (dim ond Rhufain), pam aros i fwcio? Hedfannau ar gael am £120 return gyda Alitalia, LHR-FCO, 18th i 21st.
|
|
|
Post by cymru58 on Aug 10, 2020 17:24:50 GMT
Ym mha ardal o Rhyfain a Bacw mae pawb yn aros? Hoffen fod mewn ardaloedd lle fydd y Cymru yn crynhoi os yn bosib.
|
|
|
Post by maelor on Aug 11, 2020 22:45:22 GMT
Dyma'r cyfyng-gyngor sydd gennyn ni. Beth ydy'r peth gorau i'w wneud: 1) aros i weld beth ddigwyddith a chymryd y risg y bydd prisiau wedi codi'n aruthrol erbyn i ni fwcio neu 2) prynu (neu cyfnewid) hediadau rwan a chymryd y risg y bydd yr holl beth wedi'i ganslo yn y diwedd. Os chi'n mynd i Rufain (dim ond Rhufain), pam aros i fwcio? Hedfannau ar gael am £120 return gyda Alitalia, LHR-FCO, 18th i 21st. Byddwn ni'n mynd i Baku a Rhufain.
|
|
|
Post by mrpicton on Aug 18, 2020 19:59:44 GMT
Wedi ail fwcio ticedi awyrennau ar gyfer Bacw a Rhufain. Wedi mynd am ticed "Flexible" ar gyfer Bacw rhag ofn. Wedi penderfynnu mynd yn uniongyrchol hefo'r cwmni awyren (Aeroflot) hefyd. Prisiau ddim yn ddrwd ar hynd o bryd ( a digonedd o seddi), £400 o Heathrow. Air Baltic gyda cynning da am £365 o Gatwick on dim cwsg ar noson y gem so na (ond pris da). Prisiau Aeroflot heb di bod yn newid lawer dros 1-2 wythnos diwethaf. Ond priau o Fanceinon wedi bod yn codi ( a llai o ddewis)
Mae prisiau Rhufain wedi bod yn codi - yn arbenning rhai AirItalia.
|
|
|
Post by TheWelshWay on Aug 19, 2020 9:02:46 GMT
Wedi ail fwcio hefyd - prisiau yn fine. Canlyniadau posib a) cael ei ganslo eto a pres yn ol b) mynd i Baku a Rhufain am wyliau heb beldroed mewn stadiwm - ddim rhy ddrwg pa bynag ffordd eithi.
|
|
|
Post by mrpicton on Aug 19, 2020 15:56:37 GMT
Dim problem mynd i Rhufain os oes dim peldroed ond dwi ddim mor hapus mynd i Bacw am wythnos heb beldroed - yn arbenning gan fy mod wedi bod yno or blaen!
|
|
|
Post by cadno on Oct 10, 2020 11:46:26 GMT
|
|
|
Post by pendragon on Oct 10, 2020 12:05:08 GMT
Oes posib i'r gemau yma cael eu symud i leoliad arall?
Fel mae pobl eraill wedi sôn, dwi ddim yn meddwl fod y gwledydd yma yn mynd i groesawu teithwyr ar draws Ewrop yn ystod pandemig!
|
|
|
Post by cadno on Oct 10, 2020 12:12:46 GMT
Falle bydd Gwlad Y Belg yn cael cynnal gemau wedi'r cwbwl.
Ond ma' synnwyr cyffredin yn dweud i gynnal y gemau mewn un neu ddwy gwlad rili, gan ystyried bydd covid-19 mwy na thebyg dal rownd haf nesa, a sain shwr os bydd vaccine ar gael?
|
|
|
Post by pendragon on Oct 10, 2020 12:20:05 GMT
Mi fydd rhaid i teithwyr ddangos tystysgrif i brofi eu bod wedi cael y pigiad!
Fuasa well gen i pe bai UEFA yn symud y gemau yma i un neu ddau o wledydd o fewn Ewrop.
Ond efalle, ydy hynny yn rhoi gormod o faich ar y ddau wledydd honno?
Ddim yn ffansi teithio i Bacw yng nghannol rhyfel heb sôn am pandemig 😲
|
|
|
Post by cadno on Oct 10, 2020 12:30:22 GMT
Fi'n gobeitho mynd i'r Ewros yn yr Almaen yn 2024 hyd yn oed os bydd Cymru ddim yna! Fi'n tybio bydd hwna'n well twrnament na'r un blwyddyn nesa! Ond sai 'di bod i Baku o'r blaen, so byddai bach yn gutted os byddai ffili mynd haf nesa
|
|
|
Post by derynglas on Oct 10, 2020 17:19:10 GMT
Yn bersonol gobeithio bydd ddim gemau yn Baku er bod yn lle diddorol i ymweld efallai. Y rhyfel yna wedi ail ddechrau,a hefyd y pandemic. Oedden I wedi penderfynnu peidio hedfan mwy yn Ewrop cyn ir pandemic i ddechrau. Ond dw i wirioneddol ddim eisiau heidiad hir i Baku nawr gydar virus yma mwy na thebyg byth yn bodoli a falle y vaccine ddim wedi cyrraedd erbyn haf nesa. Fydda i yn hapus os fydd Azerbailan yn cael tynnu mas or cystadleuaeth,er bod tocyn awyren gyda fi i Baku a wedyn i Rhufain,oedd yn amhosib i neud y trips ar y tren. Fydd yn bosib i fi fynd ir canolfannau eraill ar y tren yn weddol hawdd, felly croesi bysedd.
|
|
|
Post by pendragon on Oct 10, 2020 17:57:59 GMT
Cytuno!
Mi fuasa Bacw wedi bod yn lle diddorol i teithio i, ond mi oedd hynny cyn y rhyfel a'r pandemig!
Ond, beth ydy'r posibilrwydd bydd UEFA yn newid pethau? 🤔
|
|
|
Post by derynglas on Oct 10, 2020 22:34:41 GMT
Amhosib darogan beth fydd yn digwydd. Gan bod Azerbaijan yn methu chwarae gatre ar hyn o bryd rhaid bod amheuaeth mawr ar ei gallu i dal gemau haf nesa. Braidd yn wahanol ir gwledydd eraill.Os fydd vaccine fydd llai o broblem ond efallai bod ddim digon o amser a sicrwydd bod popeth yn barod mewn pryd.
Heb vaccine efallai bod yn bosib rhoi protocols mewn lle ir gemau fynd ymlaen efallai gyda torfeydd,ychydig yn llai na capacity. Oedd torfeydd yn rhai or gemau wythnos diwetha fel welon ni. Er y sibrydion fod yr Euros mynd i fod mewn un neu dau gwlad, dwi dal yn meddwl bod cynnal mewn sawl gwlad yn well mewn pandemic a bod ddim pawb yn mynd i un gwlad. Efallau fydder Almaen y dewis gorau os fydd hyn yn digwydd . Ar y foment dwin credu fydd y tournament yn mynd mlaen fel wedi cynllunio ond gyda ychydig o newidiadau,efallau un neu ddau gwlad yn tynnu mas a un neu ddau yn cael eu ychwanegu.
|
|