|
Post by derynglas on Sept 19, 2020 23:38:28 GMT
Gem dda iawn ar Sgorio heno Hwlffordd yn erbyn Y Drenewydd. Teimlad braidd yn od gwylio ar teledu gan bo fi braidd byth yn methu gem ar Dol y Bont
Hwlfford braidd yn siomedig yn y hanner cyntaf edrych yn nerfus a Drenewydd yn settlo mewn ir gem mwy cyflym a ar y blaen yn haeddiannol gyda gol Rushton ar yr hanner. Ail hanner mwy cystadleuol,Hwlffordd yn unioni gyda cic or smotyn gan Danny Williams. Drenewydd yn mynd ar y blaen yr ail dro gyda Kieron Mills Evans, ond Hwlffordd yn
unionu eto gyda Williams, ar rhwydo ar ol gwaith da gan Jack Wilson ar yr asgell dde. Gem gyfartal yn canlyniad teg ar y diwedd a gem cystadleuol a diddorol. Gobeithion gan Hwlffordd i aros yn hirach nar un tymor gawson nw tro diwetha yn 2015-16 a ar y perfformiad hwn ar gem gyfartal yn erbyn Met Caerdydd yn canol wythnos efallau fydd y clwb yn mwy cystadleuol ar y lefel yma y tro hwn.
Gobeithio fydd hi ddim rhy hir cyn fydd yn bosib cael torfeudd yn y gemau,dechrau teimlo braidd y n rhwystredig nawr a gobeithio fydd protocols mewn lle cyn bo hir iawn i galluogi torfeudd i ddod nol.Gall ddim clwbiau cadw fynd yn amhhenodol fel hyn ,ond ma rhaid edrych ar ol iechyd y cyhoedd hefyd.
|
|
|
Post by derynglas on Oct 10, 2020 23:04:48 GMT
Gem difyr ar Sgorio heno eto. Bala yn ennill 5-2 yn y diwedd ar ol i Aberystwyth mynd ar y blaen yn gynnar yn y gem. Carfan cryf gan Bala ac y clwb efallai gall herio Cei Connah a TNS am y pencampwriaeth y tymor yma. Y cwestio mawr wrth gwrs pryd gall y torfeydd dod yn ol.Cyfweliad gan Liz Saville Roberts aelod seneddol am Dwyfor a Meirionydd oedd wedi gwahodd ir gem gan Bala i arsylwi ar y gem a gobeithio helpu y clybiau perswadio yr FAW ar senedd i gael y torfeudd yn ol.
Sylwadau diddorol iawn a gobeithio fydd pethau yn symud heb fon hir. Maen iach i bobol gallu mynd ir awyr agored i wylio gem pel droed yn lle aros yn y ty neu bod mewn tafarn felly maen neud synnwyr i ceisio rhoi rheolau mewn lle i galluogy hyn a wrth gwrs maer clybiau angen arian ac bwysig ir cymuned.
Dwin credu bod y cynghreiriau o dan y prif gyngrair yn gallu dechrau chwarae gemau cyfeillgar ar ol penwythnos nesa ac wedyn dechrau go iawn mewn rhai wythnosau.
|
|
|
Post by cadno on Oct 11, 2020 9:48:27 GMT
Wedd Aberystwyth yn edrych yn dda ar adegau, ma Marc Williams yn chwaraewr o fri!
Chwaraeodd Bala yn arbennig erbyn Standard Liege rhai wythnosau yn ol, fi'n gweld nhwn pwyso YSN a Cei Connah am y gynghyrair hefyd. Sain shwr os mae'r Bari digon da tymor 'ma...
Os bydd gadael canran o gefnogwyr ir gemau yn arbed rhai or clybiau maen bwysig bod yr FAW a llywodraeth Cymru yn ystyried hyn yn ofalus! Fin shwr bod modd gwneud hi'n bosib mewn ffordd sydd yn saff i bawb.
|
|
|
Post by derynglas on Nov 1, 2020 10:02:04 GMT
Calonogol i weld Hwlffordd ar Sgorio yn gemau cystadleulol a difyr yn erbyn YSN a Bala. Anlwcus i golli withnos diwetha yn amser anafiadau. Ymddangos neithiwr bod gol hwyr Will Evans wedi ennill y peyntiau i Bala cyn i gol funud ola Jack Wilson sicrhau pwynt ir clwb o Sir Benfro. Wilson ar dan ar y foment a ddim syndod bod e wedi arwyddo estyniad i contract gydar Adar Gleision wythnos yma. Gobeithio ir clwb gallwn ni dal mlaen iddo am tipyn o amser eto ond efallai gall chwarae ar lefel uwch rhywbryd yn y dyfodol.
|
|
|
Post by cadno on Nov 7, 2020 17:03:43 GMT
Bala Vs YSN ar s4c nawr.
Dyle hwn fod yn gêm gystadleuol!
|
|
|
Post by derynglas on Nov 8, 2020 11:56:51 GMT
Oedd gem gystadleuol gyda ansawdd uchel.
Chris Venables yn sicrhau pwynt i Bala ar ol Ben Clark sgorio gydai cyffyrddiad cyntaf ar ol dod ymlaen fel eilydd.
Os bydde Y Seintiau wedi ennill bydde nw 8 pwynt yn glir ar y brig, ac efallai fydde CNN wedi galw y gyngrair iddy nw yn barod.
Er ddim yn siwr a fydde'r Nomadiaid neu Bala wedi cyfaddef bod nw allan o'r ras!
|
|
|
Post by 1gwaunview on Nov 8, 2020 16:37:38 GMT
Yn anffodus mae'n edrych fel TNS eto.
|
|
|
Post by derynglas on Dec 12, 2020 20:43:12 GMT
Cyfan yn agos iawn ar y brig heno eto ar ol perfformiad ardderchog Cei Connah yn y gem fyw heno yn erbyn Y Seintiau. Goliau gan 2 cyn chwareywyr YSN Aeron Edwards a Michael Wilde,y ddau tn penio mewn croesiadau or dde gan Aaron Williams. Felly y ddau glwb gyda record union run fath ar ol 15 gem heblaw bod YSN gyda well gwahaniaeth goliau.Rhy agos i galw nawr,er efallai fydd rhywbeth gyda Bala i weud am y pencampwriaeth eto 3 pwynt tu ol ar ol chwalu Met Caerdydd heddiw. Da i weld y ddau tim yn mynd ati dyfal donc i ennill y gem gyda digon o gyfleuon a chwarae positif. Wedi gwylio ail hanner y darbi Manceinion ar ol gem braidd yn fflat a negyddol y naill tim ddim eisiau colli er bod safon y pel droed yn mwy uchel wrth gwrs. Y pundits yn feirniadol iawn bod ddim lot o awch yn y gem am ddarbi fel hyn, ond digon o hyn i weld yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy heno.
|
|
|
Post by derynglas on Feb 7, 2021 10:59:37 GMT
Mae Bwrdd y Gyngrair Genedlaethol wedi cyhoeddi ei cynlluniau i orffen y tymor presennol ar ol aflonyddwch y pandemic.
Gobeithir fydd hyn yn bosib os fydd y wlad yn dychwelid i level 3,neu os fydd y statws "elite" yn cael eu rhoi nol ir cyngreiriau fydd yn cymrud rhan.
Y dyddiadau i rhoi yn y dyddiadur ywr canlynol:-
JD Cymru Premier- Mawrth 5 - Mai 29. Cymru Premier y Merched -Mawrth 5 - Mai 25.
JD Cymry Gogledd a'r De -Mawrth 20 - Mai29.
Cwpan Nathaniel y Gyngrair- Mawrth 23 - Mai 31.
Cwpan JD Cymru -Ebrill 20 -Mehefin 5 .Dim ond yn cynnwys clwbiaur Cymru Premier a Cymru Gogledd ar De, 45 clwb.
Cwpan y merched- penderfyniad yn Mawrth on dim ond gyda 9 clwb Cyngrair premier yn cymrud rhan.
|
|
|
Post by derynglas on Mar 6, 2021 20:08:21 GMT
Da i weld y Gyngrair yn ei ol gyda gem gystadleuol ar Sgorio heno a Bala yn cipio pwynt haeddiannol yn Neuadd y Parc yn erbyn y Seintiau Newydd. Seintiau ar y brig heno,y Nomadiaid pwynt ar ol ond gyda gem wrthlaw ar ol curo y Drenewydd 2-1. Newydd syfrdanol wedi cyhoeddi ar Sgorio bod Hwlffordd wedi arwyddo Jazz Richards a fydd yn mynd syth mewn ir tim yn erbyn Aberystwyth nos fawrth, a gobeithir ei gem cyntaf cartref yn erbyn Y Seintiau yn gem fyw Sgorio dydd Sadwrn nesa.
|
|
|
Post by allezlesrouges on Mar 9, 2021 21:12:24 GMT
Dysgwr yma. Mae fy Gymraeg yn ddim yn perffaith, ond dw i angen ymarfer yn fwy aml. Dw i eisiau trio ysgrifennu yma
Dw i'n dod o Gaerdydd, felly fy nhîm yn y Cymru Premier yw Barri. Ond yn lleol yng Nghaerdydd, dw i aelod o Draconiaidd Caerdydd yn yr Ardal Dde-Gorllewin (Trydedd Haen). Ac felly, dw i'n dilyn Barri a Ddraconiadd Caerdydd
|
|
|
Post by allezlesrouges on Mar 18, 2021 12:06:26 GMT
Chris Coleman i'r Seintiau Newydd?! Diddorol iawn!
|
|
|
Post by derynglas on Mar 27, 2021 17:46:24 GMT
3 Pwynt pwysig i Carnarfon yn y ras am y 6 uchaf yn fyw ar Sgorio prynhawn yma.Jack Kenny yn rhwydo yn yr hanner cyntaf a cic or smotyn gan Mike Hayes yn rhoi fantais 2 gol yn erbyn Met Caerdydd oedd wedi colli 7 gem i ffwrdd a gartre yn olynol. Harry Owen yn tynnu un ol ir myfyrwyr a edrych fel galle nw achub pwynt am adeg or gem ond Bickerstaff sgorio trydedd ir Cofis cyn Elliot Evans sgorio cic or smotyn yn amser ychwanegol gydar sgor terfynnol o 3-2. Hwlffordd yn ennill o 3-0 yn y Drenewydd sydd yn cadwr pwysedd ar Caernarfon gyda un gem ar ol cyn y toriad,Cofis 3 pwynt ar y blaen yn Chwarae Y Seintiau i ffwrdd, Hwlffordd yn teithio i Penybont. Canlyniad y dydd-Barri yn ennill 6-2 yn erbyn Y Bala a sicrhau lle yn y chwech ucha, diwedd unrhyw obeithion gall Bala dal y dau glwb ar y brig maen siwr.
|
|
|
Post by derynglas on May 3, 2021 9:40:50 GMT
Gem weddol ddi-flach yn Stadiwn Glannau Dyfrdwy rhwng y ddau ar y brig dydd Sadwrn. Ddim llawer o bel droed,na cyfleuon, digon o ymdrech wrth gwrs ond fyddech yn disgwyl hynnu o leia gyda gymaint yn y fantol.
Felly uchafbwynt dramatic ir tymor yn adeiladu. Tair gem ar ol,y Nomadiaid gyda un gartre yn erbyn Caernarfon, a dwy i ffwrdd yn erbyn Barry a Penybont. Y Seintiau gyda 2 gatre (Barry a Bala) 1 i fwrdd (Penybont nos yfory). Nomadiaid 2 bwynt yn glir ond gwahaniaeth goliau y Seintiau yn werth pwynt.
Felly mae yn dwylo Cei Connah ar y foment,ennill y tri a fyddan yn pencampwyr,syml a hynnu. Un gem gyfartal,a fydd nol yn dwylor Seintiau. Maer hollt yn y tymor yn dda mewn ffordd achos mae yn meddwl bod y gemau ar ol yr un mor anodd ir ddau glwb. Amhosib i galw ar y foment hon ond credu a gobeithio eith y ras ir diwrnod diwetha. Nomadiaid yn fefrynnau o drwch blewyn ond dim lle am unrhyw camgymeriadau.
|
|
|
Post by cogancoronation31 on May 11, 2021 18:43:40 GMT
Mae 'na ddiweddglo cyffrous ar y gweill b'nawn Sadwrn hwn sy'n dod, Mai 15.... 'High Noon' yn wir!
KO: 12.00
Y Seintiau Newydd -v- Y Bala
Penybont -v- Cei Connah
PWY FYDD YN GWENU (A PHWY FYDD DDIM) AR DDIWEDD Y DYDD, TYBED? 😀 ⚽️ 😢
|
|
|
Post by allezlesrouges on May 15, 2021 11:17:29 GMT
Mae'n wych i weld gêmau cystadleuol a ddrama yn Uwch Gynghrair Cymru
Gobeithio Cei Connah yn ennill
|
|
|
Post by cogancoronation31 on May 15, 2021 13:36:14 GMT
Llongyfarchiadau, Cei Connah!
|
|
|
Post by cadno on May 16, 2021 7:43:57 GMT
Gobeitho gall cefnogwyr mynd i weld gemau tymor nesa!
|
|
|
Post by derynglas on May 19, 2021 13:42:28 GMT
Fydd yn bosib i cefnogwyr mynd mewn i bar y clwbiau yn Barry a Penybont ar y penwythnos a gwylior gemau ail gyfle ar y teledu (Barri) neu ar lein (Penybont) ond ddim yn bosib mynd mewn ir stadiwm.
Wedi gweld ar twitter bod y ddau glwb wedi gofyn wrth llywodraeth Cymru a galle nw gadel ychydig cefnogwyr mewn ir stadiwm,yr un fath a mae Abertawe,Casnewydd a Wrecsam yn gallu neud yn ei gemau ail gyfle. Fyddai hyn dim ond yn deg,dwin credu,gobeithio bod ddim rhy hwyr ir lywodraeth newid ei meddwl ar hyn.
|
|