|
Post by cadno on Oct 31, 2020 22:05:30 GMT
Bydd chwaraewyr fel Doidge/ Bradshaw/Emyr Huws yn cael cyfle erbyn UDA?
Fi'n gobeitho gweld Gwion Edwards yn cael cyfle ar 么l dechrau da ir tymor gyda Ipswich, a Ryan Hedges sydd wedi chwarae'n dda i Aberdeen. Pwy arall bydde chi'n hoff o weld yn cael cyfle? Marley Watkins, Morgan Fox, Shaun MacDonald, Tom Lawrence, Brennan Johnson?
Bydd HRK n么l mewn pryd?
Hoffe ni weld rhwbeth fel hyn erbyn UDA: Ward Cabango Rodon Fox CR Ampadu Huws RND Edwards Wilson Doidge
|
|
|
Post by derynglas on Nov 1, 2020 9:48:23 GMT
Rhaid rhoi cyfle i Doidge nawr yn fy marn i. Ni heb golli gem gystadleuol am 8 gem nawr,heb ildio gol am 6. Ond sgorio yn broblem,dim ond 1 gol gan ymosodwr yn y 4 diwetha,2 mewn chwech. Mae Doidge yn gwybod le maer gol,wedi sgorio yn bob lefel mae wedi chwarae. Pan mae Kieffer mas Doidge ywr chwaraewr mwya tebyg iddo i gadwr formation ar ffordd o chwarae.
|
|
|
Post by cadno on Nov 1, 2020 13:42:25 GMT
Cytuno, mae Giggs yn benderfynol i beidio rhoi cyfle i Sam Vokes, felly pam lai cael golwg ar Doidge.
|
|
|
Post by cogancoronation31 on Nov 4, 2020 17:53:07 GMT
Trueni mawr am y busnes diflas gyda Ryan Giggs, a'i fod nawr am fod yn absennol o gemau mis Tachwedd. Tybed beth ddaw o hyn oll?
Mae genni ffydd serch hynny yn Rob Page. Bu'n was da i Gymru fel chwaraewr - a chofiaf ef fel ein capten yn y fuddugoliaeth o 2-0 yn erbyn Hwngari yn 2005, pan sgoriodd Craig Bellamy ddwywaith.
Gobeithio y gallwn barhau are ein rhediad da trwy guro UDA, Iwerdddon a Fffindir. Maent yn gemau cartref wedi'r cyfan, a chyfle i Page ddangos ei ddoniau fel arweinydd dros-dro.
|
|
|
Post by cadno on Nov 4, 2020 21:23:54 GMT
Fi'n hapus gyda Robert Page wrth y llyw fyd!
Darllenes i ar gwefan DS falle bydd Ashley Williams yn rheolwr dros dro ar ol y gemau mis hyn!
Bydde ni wrth fy modd yn gweld Ash fel rheolwr Cymru rhyw ddydd, fi'n siwr bydde fe'n cael angerdd allan o'r chwaraewyr.
Yr unig gofid sydd gyda fi yw falle bydde syniadau Ash yn newid rhy radical i'r syniadau/tactegau ma Ryan Giggs wedi cyflwyno?
|
|
|
Post by cogancoronation31 on Nov 5, 2020 11:20:26 GMT
Bore Iau - Mae'r garfan wedi ei chyhoeddi!
Da gweld Owain Fon nol yn y gwersyll - siawns am gem iddo (o leia un hanner) yn erbyn UDA, byddwn i'n gobeithio.
|
|
|
Post by vaulksthrowfanclub on Nov 5, 2020 11:40:42 GMT
Byse well gen i os fydd Danny Ward to chwarae鈥檙 g锚m yn erbyn yr UDA gan bod o 鈥榙i cael cyn lleied o gemau dros Caerl欧r. Bydd o angen hybu rhywfaint o ffitrwydd yn fy marn i.
|
|
|
Post by cogancoronation31 on Nov 5, 2020 11:44:52 GMT
Dylai fod yn un hanner yr un i DW ac OFW yn fy marn i.
Mae'n bosib y ceith DW gem i Gaerlyr heno yn erbyn Braga yn yr Europa League. Gorffwys bach i Casper Schmeichel?
|
|
|
Post by vaulksthrowfanclub on Nov 5, 2020 12:05:31 GMT
Dylai fod yn un hanner yr un i DW ac OFW yn fy marn i. Mae'n bosib y ceith DW gem i Gaerlyr heno yn erbyn Braga yn yr Europa League. Gorffwys bach i Casper Schmeichel? Yn anffodus dw i ddim yn rhagweld Rogers yn rhoi saib in Schmeichel heno- ond gobeithio fy mod i鈥檔 anghywir.
|
|
|
Post by cogancoronation31 on Nov 12, 2020 13:08:11 GMT
Mae Tachwedd 12 wedi dod... Er mai ond gem gyfeillgar yw hi, hoffwn weld Cymru'n curo heno. Dim ond unwaith y'ni wedi chwarae'r UDA o'r blaen, ac fe gollon ni honno. Felly cyfle i dalu'r pwyth nol - mae'n bwysig cadw'r 'record books' i edrych yn barchus!
Mae tim ifanc iawn gan yr UDA - rwy'n rhagweld y byddwn yn ennill o 3-0. Platfform da i ni ar gyfer y gemau pwysig wythnos nesaf yn erbyn Iwerddon a Ffindir.
|
|
|
Post by cadno on Nov 12, 2020 13:34:24 GMT
Wow, lice ni bod mor hyderus a ti cogancoronation31 ! Fi'n mynd am 2-1 i Gymru gyda Dan James a Harry Wilson yn sgorio. Fi'n simoedig bydd Morgan Fox a C.Doidge ddim yn cael cyfle i chwarae. Fi hefyd yn gutted bod cefnogwyr ffili mynd ir g锚m, bydde ni'n dwlu gwylio Cymru yn y Liberty. Ward Gunts Rodon Lockyer CR Smith Sheehan DJ Wilson Lawrence TR
|
|
|
Post by cadno on Nov 12, 2020 23:23:47 GMT
O ni'n falch i weld Brennan Johnson a Josh Sheehan yn chwarae! Trenu odd ddim cyfle i weld rhywyn fel Bradshaw neu Doidge.
Gunter yn throwback a'n atgoffa pawb bod hi'n bwysig bod amddiffynwyr yn dda yn amddiffyn hefyd... 馃榿 Defensive master class!
|
|
|
Post by cogancoronation31 on Nov 13, 2020 12:36:29 GMT
Cytuno - perfformiad solid drwyddi draw gan CG. Dechre simsan yn y gol i DW, ond fe wellodd dipyn wrth i'r gem barhau. Roeddem yn edrych yn lot mwy bygythiol pan ddaeth DJ a JS ymlaen - ond fe ddylai BJ wedi sgorio! Yr Americanwyr yn chware'n bert, ond dim byd i wir boeni DW.
Ynglyn a'r sgor, o leia 'roeddwn yn hanner-cywir! 0-0 nid 3-0. Llechen lan arall; 'dyw 7 mas o 8 ddim yn ffol!
RHAID nawr i ni ffeindio ffordd i gael y bel 'na i gefn y rhwyd - ac nid jyst yn y munudau/eiliadau olaf!
Byddai curo'r Gwyddelod o rhyw ddwy gol glir (goliau hanner cyntaf!) yn hwb mawr.
|
|
|
Post by cadno on Nov 14, 2020 11:56:33 GMT
Oes, ma angen ni sgorio mwy. Gyda Bale a Brooks n么l, a 11 cryfach, mae'n rhaid byddwn ni'n bygwth y g么l yn amlach fory.
Bydde ni'n mynd am yr 11 hyn erbyn y Gwyddelod:
Ward Mepham Rodon BD CR Ampadu Morrell RND Bale Brooks Jonny
Sylfaen cadarn i adael ni ymosod gyda mwy o rhyddid. Y 3 up top yn cyfnewid safle!
|
|
|
Post by cogancoronation31 on Nov 19, 2020 20:30:30 GMT
Buddugoliaeth wych neithiwr - a goliau da hefyd! Dyna drueni oedd ildio gol!
Rhaid llongyfarch y chwaraewyr dros yr wythnos ddiwethaf 'ma - ac yn enwedig hefyd yr is-reolwr Robert Page a'r profiadol Albert Stuivenberg - am gadw'r ddesgl yn wastad mewn amgylchiadau nid hawdd (o gofio absenoldeb Ryan Giggs; rhywbeth a allasai wedi cael effaith mwy negyddol nag, yn ffodus, a wnaeth).
|
|
|
Post by maelor on Nov 20, 2020 20:09:27 GMT
Buddugoliaeth wych neithiwr - a goliau da hefyd! Dyna drueni oedd ildio gol! Rhaid llongyfarch y chwaraewyr dros yr wythnos ddiwethaf 'ma - ac yn enwedig hefyd yr is-reolwr Robert Page a'r profiadol Albert Stuivenberg - am gadw'r ddesgl yn wastad mewn amgylchiadau nid hawdd (o gofio absenoldeb Ryan Giggs; rhywbeth a allasai wedi cael effaith mwy negyddol nag, yn ffodus, a wnaeth). Cytuno - mae wedi bod yn wythnos arbennig, chwarae teg.
|
|