|
Post by cogancoronation31 on Feb 24, 2021 21:21:41 GMT
Pethau ddim yn edrych yn rhy glyfar i ni ar y foment - ein rheolwr/hyfforddwr (Mr G) a phrif swyddog y Gymdeithas (Mr F) ill dau'n cadw eu gerddi'n daclus!
Pwy fydd yn llenwi esgidiau'r ddau yma pan fydd y tim cenedlaethol yn teithio i wlad Belg ymhen ond ychydig wythnosau (gyda'r gemau yn erbyn Mecsico a Tsiecia i ddilyn yn y dyddiau canlynol)?
Mae Gwasaneth Erlyn y Goron (CPS) yn cymryd amser hirfaith i gyrraedd penderfyniad yn achos RG (a fydd gwys yn ei erbyn ai peidio?) ac mae'n siomedig os collwn wasaneth JF mewn blwyddyn mor dyngedfennol - mae llawer o bethau da wedi digwydd yn ystod ei gyfnod wrth y llyw.
|
|