|
Post by mrpicton on May 14, 2021 14:48:49 GMT
Dau o ni yn mynd i Baku.
|
|
|
Post by sleepy on May 14, 2021 22:17:14 GMT
Fi dal yn gobethio mynd i Ryfain, ond dim yn disgwyl fynd.
|
|
|
Post by derynglas on May 15, 2021 7:24:48 GMT
Anffodus wedi penderfynnu peidio mynd i Baku ddoe. Oedd ein heidiadau wedi cael ei canslo gan Lufthansa yn yr wythnos. Ar ol ychydig o drafod,penderfynon ni bod ddim pwynt bwco heidiadau newydd gyda cymaint o ansicrwydd ar bob agwedd or trip. Gutted!
Tri o ni dal yn gobeithio mynd i Rhufain ar y tren.Fydd dim rhaid penderfynnu am nes mwy agos ir amser felly,tra bod ni ddim yn bwcio heidiadau. Ddim yn dangos yn debygol rhaid gweud,hyd yn oed os gawn ni tocynnau ar y ballot.
|
|
|
Post by cogancoronation31 on May 15, 2021 11:56:36 GMT
Fi'n gobeithio teithio i Wembley (am Rownd yr 16) ar ôl i ni ennill ein Grwp!
|
|
|
Post by mrpicton on May 15, 2021 12:46:30 GMT
Anffodus wedi penderfynnu peidio mynd i Baku ddoe. Oedd ein heidiadau wedi cael ei canslo gan Lufthansa yn yr wythnos. Ar ol ychydig o drafod,penderfynon ni bod ddim pwynt bwco heidiadau newydd gyda cymaint o ansicrwydd ar bob agwedd or trip. Gutted! Tri o ni dal yn gobeithio mynd i Rhufain ar y tren.Fydd dim rhaid penderfynnu am nes mwy agos ir amser felly,tra bod ni ddim yn bwcio heidiadau. Ddim yn dangos yn debygol rhaid gweud,hyd yn oed os gawn ni tocynnau ar y ballot. Roedd ganddom ni hefyd hediadau i Bakw gyda Aeroflot ond cafodd y rhain ei canslo mis Mawrth. Er bod dewisiadau rhatach (Air Baltic) penderfynodd ni fynd gyda Wonky Sheep (£750) i osgoi ansicrwydd rheolau "transit airports". Nes ti ystyried Wonky?
|
|
|
Post by derynglas on May 15, 2021 14:51:55 GMT
Ddim wedi ystyried wonky sheep yn wirioneddol. Gormod o hassle,ddim digon o amser ar ol,yr arian, ar holl ansicrwydd gyda profion,ynysu ac yn y blaen.
|
|
|
Post by cadno on May 16, 2021 7:41:44 GMT
Sain mynd i unrhyw gêm, ma gormod o ansicrwydd o amgylch y peth i fi.
Pob lwc, fin gobeitho bydd lot fach o gefnofwyr Cymru yn y stadiymau, er byddain genfigennus!
Bydd en brofiad sbesial i chi, a ma gemau lot yn well i wylio arno'r teledu gyda fans yn y stadiwm. Wedd yr FA Cup Final yn fantastic neithwr, x10 yn well gyda cefnogwyr Caerlyr yn dathlu.
|
|
|
Post by mrpicton on May 17, 2021 10:35:31 GMT
Sain mynd i unrhyw gêm, ma gormod o ansicrwydd o amgylch y peth i fi. Pob lwc, fin gobeitho bydd lot fach o gefnofwyr Cymru yn y stadiymau, er byddain genfigennus! Bydd en brofiad sbesial i chi, a ma gemau lot yn well i wylio arno'r teledu gyda fans yn y stadiwm. Wedd yr FA Cup Final yn fantastic neithwr, x10 yn well gyda cefnogwyr Caerlyr yn dathlu. Mae'n debygol fod seddi ar ol gan Wonky Sheep. Roeddem ni y reit lwcus i gael yr arian yn ol or hedfannau gaeth eu canslo. Y brif peth yw yr angen i ynysu al 10 diwrnod ar ol dod yn ol.
|
|
|
Post by mrpicton on May 17, 2021 10:36:53 GMT
Sain mynd i unrhyw gêm, ma gormod o ansicrwydd o amgylch y peth i fi. Pob lwc, fin gobeitho bydd lot fach o gefnofwyr Cymru yn y stadiymau, er byddain genfigennus! Bydd en brofiad sbesial i chi, a ma gemau lot yn well i wylio arno'r teledu gyda fans yn y stadiwm. Wedd yr FA Cup Final yn fantastic neithwr, x10 yn well gyda cefnogwyr Caerlyr yn dathlu. Mae'n debygol fod seddi ar ol gan Wonky Sheep. Roeddem ni y reit lwcus i gael yr arian yn ol or hedfannau gaeth eu canslo. Y brif peth yw yr angen i ynysu al 10 diwrnod ar ol dod yn ol. Bydd yn ddiddorol gwybod faint o gefnogwyr Cymru sydd yn mynd i Bacw, efallai 1,000?
|
|
|
Post by cadno on May 17, 2021 18:10:41 GMT
Mae'n debygol fod seddi ar ol gan Wonky Sheep. Roeddem ni y reit lwcus i gael yr arian yn ol or hedfannau gaeth eu canslo. Y brif peth yw yr angen i ynysu al 10 diwrnod ar ol dod yn ol. Bydd yn ddiddorol gwybod faint o gefnogwyr Cymru sydd yn mynd i Bacw, efallai 1,000? Bydde hwnan gret. O ni'n meddwl am e heddi, a fi'n cytuno, fin gweld hyd at 1000 yn mynd i Baku. Byddai ddim yn un ohonyn nhw :-(
|
|
|
Post by garynysmon on May 18, 2021 8:41:59 GMT
Roedd gena'i docynnau a hediadau wedi'i bwcio ar gyfer yr Ewro 2020 gwreiddiol. Ond yn dilyn yr holl helynt o Covid dwi 'di hen anghofio am y syniad misoedd yn ol.
Wedi bod i Baku mis Tachwedd 2019 a tydi o ddim y lle hawsaf i gyrraedd ar y gora', heb son am y cyfyngiadau presennol.
Cyfuniad o pa mor 'awkward' a di-drefn fysa trefnu trip ar y funud a'r teimlad hefyd fysa'r tripiau ddim byd tebyg a heb yr hwyl o rai 'Wales Away' cyffredinol p'run bynnag.
Tydi'r syniad o deithio mor bell a ddim yn cael crwydro o bar i bar a chymysgu ayb ddim yn apelio na'n swnio werth y gost os dwi'n onest.
|
|
|
Post by mrpicton on May 18, 2021 15:34:37 GMT
Roedd gena'i docynnau a hediadau wedi'i bwcio ar gyfer yr Ewro 2020 gwreiddiol. Ond yn dilyn yr holl helynt o Covid dwi 'di hen anghofio am y syniad misoedd yn ol. Wedi bod i Baku mis Tachwedd 2019 a tydi o ddim y lle hawsaf i gyrraedd ar y gora', heb son am y cyfyngiadau presennol. Cyfuniad o pa mor 'awkward' a di-drefn fysa trefnu trip ar y funud a'r teimlad hefyd fysa'r tripiau ddim byd tebyg a heb yr hwyl o rai 'Wales Away' cyffredinol p'run bynnag. Tydi'r syniad o deithio mor bell a ddim yn cael crwydro o bar i bar a chymysgu ayb ddim yn apelio na'n swnio werth y gost os dwi'n onest. Be dwi yn teimlo ydi - dwi wedi cael y jab a bydd y rhan fwyaf sydd yn teithio hefyd wedi cael y jab - a rhain fyddfa fi yn gymysgu gydaf. Cytuno bydd yn deimlad rhyfedd - ond bydd canu yr anthem ar gyfer y gem gyntaf yn arbenning "er gwaethaf pawb a phopeth"!
|
|
|
Post by derynglas on May 19, 2021 13:34:19 GMT
Weddol hyderys gallwn fynd i Rhufain nawr. Disgwyl ail jab wythnos nesa felly fydd grwp ni wedi cael y vacc. Oedden ni ddim yn awyddys iawn i hedfan i Baku o dan yr amgylchiadae hyn. Ond fydden wedi mynd os fyse ein heidiadau heb ei canslo. Fyddai ddim wedi bod yn bosib mynd i Rhufain or ol hynnu dwyn credu,oedden yn glannu yn Twrci ar y ffordd felly problemau.
Felly roedd y penderfyniad wedi gwneud i ni mewn ffordd. Oedden yn mwy awyddus i fynd i Rhufain beth bynnag. Mynd ar y tren felly fydd ddim rhaid bwcio nes mwy agos ir diwrnod. Ddim yn gofidio am fynd o bar i bar a yfed a canu tro hon,just hapus i fod na. Felli croesi bysedd mae fydd yn digwydd ac edrych mlaen.
|
|
|
Post by mrpicton on May 21, 2021 21:03:58 GMT
Tybed faint o gefnogwyr sydd wedi penderfynnu peidio mynd ond....yn agosach i'r gemau yn ail feddwl?
Yn sicr bydd hyn yn digwydd os fydd yr Eidal (new Azerbaijan) yn newid i "Wyrdd".
|
|
|
Post by derynglas on Jun 5, 2021 7:54:25 GMT
Wedi ffeindio mas rhai wythnosau nol bod ddim posib teithio trwy Ffrainc ar tren heb cael cwarantin 7 diwrnod dwyn credu. Felly wedi archebu heidiad i Rhufain a nol nawr i fy hunan,falle 1 arall yn dod ddim yn siwr. Wedi cael yswiriant,jest gorfod trefnu prawfion nawr.Beth all fynd oi le haha! Gweld ar thread arall bod FA Azerbaijan yn disgwyl 2000 cefnogwyr Cymru. Fyddain synnu i weld mwy na rhai cannoedd fy hunan ond fyddai yn nifer parchus iawn os fydd yn digwydd,oedden wedi clywed 2000 am Rhufain hefyd heb canslo tocynnau .
|
|
|
Post by cadno on Jun 5, 2021 19:27:30 GMT
Pob lwc Bois, falle bydd fans Cymru yn neud y gwahaniaeth 👍 renditions o hymns and arias a calon lan plis!
|
|