|
Post by derynglas on Aug 21, 2021 7:48:08 GMT
Gem cyntaf cyngrair yn Stadiwn Dol y Bont Ogi neithiwr o dan y goleuadau, ddi sgor rhwng Hwlffordd a Met Caerdydd. Roedd mynediad yn rhad ac am ddim,felly torf o efallai 7-800 cant yn bresennol. Gem cyflym iawn ond cyfleon yn brin iawn yn anffodus. Peniad Jack Wilson yn taro amddiffynwr Hwffordd Patten ar y llinell gol oedd yr agosaf at gol yn yr hanner cyntaf,arbediad gwych gan Idzi wrth Warman agos ir diwedd yr cynnig gorau ir Met a gem cyfartal yn canlyniad teg yn y diwedd.
Felly Hwlffordd gyda ei pwynt cyntaf am y tymor ond heb sgorio eto. Wedi arwyddio ymosodwr yn yr wythnos Alhagi Touray Sisay sydd wedi chwarae yn Sbaen,Lloegr ,ac wedi cael 5 gem i Aberystwyth yn y gorffennol lle sgorodd 4. Gobeithio geith cliriad rhyngwaladol i chwarae cyn dydd Sadwrn nesa pan fydd Y Seintiau Newydd yn ymweld a gorllewin Cymru .Fydd yn brynhawn anodd iawn i'r Adar Glas tro hon maen siwr, ac anodd gweld nw yn ail adrodd ei gamp llynedd pan enillo nw 2-1 o flaen camerau Sgorio,fydde nw yn cymryd pwynt nawr.
|
|
|
Post by derynglas on Nov 1, 2021 9:09:13 GMT
Canlyniad da i Hwlffordd yn erbyn Y Drenewydd dydd Sadwrn. Enwedig ystyried bod argyfwng anafiadau gyda Hwlffordd a 4 chwaraewr academi ar y fainc yn unig. Gol gan Alhagi Touray Sisay yn cipior 3 pwynt yn gem o safon gyda digon o gyfleon ir ddau tim. Aberystwyth yn tipyn o drwbl ar ol clolli gatre i Fflint yn y gem fyw nos Wener. Aber wedi chwarae yn dda a gol wedi gwrthod yn amser ychwanegol ond rhediad anhygoel Fflint yn parhau dal yn ail efallai yr unig tim all ddal y Seintiau nawr, ddim yn mynd i ddigwydd dwin credu.
|
|
|
Post by allezlesrouges on Nov 1, 2021 21:01:48 GMT
Dw i'n aros yn Nant Gwrtheyrn wythnos hwn i ddysgu Cymraeg. Byddaf i fod yn edrych am content i wylio a chlywed yn Gymraeg bob dydd, felly byddaf i wylio y gĂȘmau ar-lein S4C. Gwyliais i ddim digon Cymru Premier tymor hwn
|
|
|
Post by derynglas on Dec 26, 2021 10:10:39 GMT
Well dim darbis nadoligaidd heddiw achos yr hen omicron!
Siomedig braidd i ddechrau ond efallai fydd y toriad yn hwb i clwb fel Hwlffordd.Oedden ni wedi bod yn chwarae gyda 11 neu 12 chwaraewr holliach or garfan a cael chwaraewyr ieienctid ar y fainc ers cwpwl o fisoedd. Oedd y garfan yn rhy fychan,ddim digon o chwaraewyr.
Oedd y clwb wedi neud eitha da o dan yr amgylchiadau felly trueni braidd bod Wayne Jones wedi penderfynnu ymddiswyddo ar ol y gem yn Fflint. Pwynt a performiad da yn erbyn Bala wedyn.
Fydd siawns cael chwaraewyr nol o anafiadau a arwyddo chwaraewyr newydd cyn y 2 gem dyngedfennol yn erbyn Aber.
Maer gyngrair yn gryfach na erioed eleni dwyn credu. Hyd yn oed Derwyddon Cefn ar y gwaelod wedi cael pwynt yn erbyn Fflint a Bala. Fydd yn anodd iawn osgoir cwmp,gyda Hwlffordd a Aber fefrynnai i ymuno a nw. Mae Met Caerdydd a Barry ddim yn hollol saff o bell ffordd a gellir cael ei tynnu mewn ir frwydr os ddim yn ofalus.
Maer hen ddywediad "rhy dda i fynd i lawr" yn wir iawn am y clwbiau rhain eleni. Adlewyrchiad o safon y gyngrair yw hyn a mae tipyn o frwydr on blaen ni gyd.
|
|
|
Post by derynglas on Mar 28, 2022 11:24:37 GMT
Llongyfarchiadau i'r Seintiau Newydd ar ennill y gyngrair fel y disgwyl rhai wythnosau yn ol.Anhygoel braidd bod nw heb ennill y gystadlauaeth am 2 blynedd ond amlwg fydde neb yn gallu stopio nw eleni ar ol rhai wythnosau.
Unrhyw un or 5 clwb arall dal yn gallu cyrraedd yr ail safle ar lle yn Ewrop,dim on 6 pwynt rhwng y clwbiau yn 2il i chweched.Ac wrth gwrs os fydd Y Seintiau yn ennill y cwpan yn erbyn Penybont (yn CCS ar Mai 1af) wedyn fydd y trydedd safle digon da am Ewrop,felly cyfan i chwarae am.
Yn hanner isaf y tabl ymddangos bod penderfyniad Hwlffordd i appwyntio Nicky Hayen o wlad Belg fel rheolwr yn talu ar ei ganfed,edrych weddol saff nawr heb golli ers 6 gem, ar brig yr hanner isaf a sians i fod yn y gemau ail gyfle am cwpan Irn Bru. Derwyddon Cefn wedi disgyn eisioes er ennill ei gem cyntaf ers bron blwyddyn dydd sadwrn. Tipun o frwydr gyda Barry nawr i osgoi mynd lawr,ar yr un pwyntiau a Cei Connah sydd dal yn tim cryf gyda gwahaniaeth goliau o +17 lle mae Barry gyda-14 ond rhaid i Barry dal i gredu gella nw goroesi.Aber ddim hollol saff eto ond y 3 clwb rhy dda i fynd lawr.
|
|
|
Post by derynglas on Apr 18, 2022 22:22:50 GMT
Bala yn sicrhau yr ail safle a lle yn Ewrop heddiw ar ol ennill yn Caernarfon. Y Drenewydd fydd 3edd ac yn cael lle yn Ewrop os fydd Y Seintiau Newydd yn ennill y cwpan, wrth gwrs Penybont os galla nw ennill ond wedi bod ar rhediad wael yn ddiweddar.
Hwlffordd yn saff or cwymp ar ol ennill yn erbyn Barry dydd gwener. Met Caerdydd,Cei Connah ac Aberystwyth yn saff ar ol canlyniadau heddiw. Barry fydd yn gorffen yn yr 11fed safle ar ol perfformiad siomedig a colled i Aber ar y gem fyw heno.Rhaid iddyn nw aros am apeliadau Llanilltyd Fawr a Pontypridd yn ei cais am trwydded.Y gred yw bod stadiwn y ddau glwb ddim yn addas ir prif gyngrair. Llanilltyd wedi ennill cyngrair y de heddiw ar oll ennill yn erbyn Gwyndu. Dwi ddim yn or hoff or system hon o penderfynnu pwy syn gallu dod lan.Ar y llaw arall mae rhaid cadwr safonau.Dda i weld cymaint o glybiau yn neud ymdrech i gael dyrchafiad, oedd hyn ddim yn wir rhai blynyddau nol enwedig yn y De.
Felly yr un mater i settlo yw pwy fydd yn y gemau ail gyfle i fynd mewn cwpan yr Irn Bru. Aber yn chwarae Cei connah,a Hwlffordd yn erbyn Met Caerdydd ar 4 clwb yn gallu cipior 7fed safle. Oedd torf o 543 yn Hwllfordd dydd Gwener on gobeithir am ychydid fwy dydd Sadwrn gan bod mynediad yn rhad ac am ddim.
|
|