|
Post by Pierre Mauroy on Oct 25, 2021 19:13:00 GMT
Ydi Malcolm Allen yn cael ei dalu fesul gair? Os ydi, fedra ni drefnu casgiad i dalu iddo gau ei geg? Mae ei frawddegau yn mynd yn baragraffau enfawr - fuaswn i'n tybio ei fod wedi bod yn darllen James Joyce petawn i ddim yn amau fod Sali Mali yn fwy at ei ddant. Diolch byth am fwtwm mud ar y 'remote'.
Os oes na unrhywun efo Laryngitis fuasai'n fodlon poeri a llenwi potel 'atomiser' gwag a'i chwistrellu trwy flwch llythyrau ei dy tua tri diwrnod cyn gem nesa Cymru, dwi'n fodlon talu costau.
Yn hytrach na cau ei geg o, mae Nic Parry yn gofyn 'Be wyt ti'n feddwl, Malcolm?' tua deg gwaith gormod bob gem. 'Dwi ddigon hen i gofio David Coleman yn sylwebu, ac ar ddiwedd gem 'roedd gen i syniad go lew o enwau pawb oedd yn chwarae am ei fod yn deud wrthym pwy oedd ar y bel trwy'r adeg - dyna'r fforddd i sylwebu.
Oes rhywun yn cytuno efo fi?
O ia, a beth am gael is-deitlau Cymraeg pan mae John Hartson yn siared?
|
|
|
Post by maelor on Oct 25, 2021 22:03:08 GMT
Ydi Malcolm Allen yn cael ei dalu fesul gair? Os ydi, fedra ni drefnu casgiad i dalu iddo gau ei geg? Mae ei frawddegau yn mynd yn baragraffau enfawr - fuaswn i'n tybio ei fod wedi bod yn darllen James Joyce petawn i ddim yn amau fod Sali Mali yn fwy at ei ddant. Diolch byth am fwtwm mud ar y 'remote'. Os oes na unrhywun efo Laryngitis fuasai'n fodlon poeri a llenwi potel 'atomiser' gwag a'i chwistrellu trwy flwch llythyrau ei dy tua tri diwrnod cyn gem nesa Cymru, dwi'n fodlon talu costau. Yn hytrach na cau ei geg o, mae Nic Parry yn gofyn 'Be wyt ti'n feddwl, Malcolm?' tua deg gwaith gormod bob gem. 'Dwi ddigon hen i gofio David Coleman yn sylwebu, ac ar ddiwedd gem 'roedd gen i syniad go lew o enwau pawb oedd yn chwarae am ei fod yn deud wrthym pwy oedd ar y bel trwy'r adeg - dyna'r fforddd i sylwebu. Oes rhywun yn cytuno efo fi? O ia, a beth am gael is-deitlau Cymraeg pan mae John Hartson yn siared? Dwi'n hoff iawn o Nic a Malcolm fel tîm sylwebu.
|
|
|
Post by dai on Oct 26, 2021 10:23:05 GMT
Trolling Cymraeg yw hwn neu beth?
Dwi'n eitha hoff o Nic a Malcolm i fod yn onest.
Fel rhywun sy'n tueddi i ddefnyddio lot o 'frat-iaith' Cymraeg fy hun, dwi'n meddwl bod y comment am Hartson a'r is-deitlau yn harsh iawn.
Ma Gwennan Harries yn pundit da, a hoffe ni glywed hi'n sylwebi mwy.
|
|
|
Post by Pierre Mauroy on Oct 31, 2021 13:04:16 GMT
Dim fy mwriad i oedd trolio o gwbl. Deud be ydwi'n feddwl a gofyn barn pobl eraill oedd fy syniad:-
John Hartson: Arwr Cenedlaethol heb amheuaeth - ond dylai S4C dalu am wyliau yn Nant Gwrtheyrn iddo, mae'n le hyfryd a byddai'n mwynhau dwi'n siwr.
Nic Parry: Hoff iawn ohonno fel sylwebydd - pwy fedr anghofio'i "Haleliwia Robson Kanu" (gwych) neu ei "Gorfoledd, Arallfydol, Angrhedadwy" (dyna' union be oedd o) ar ddiwedd gem Gwlad Belg. Ond fel mae tim fel Estonia yn dod a tim Cymru lawr i'w lefel nhw, mae Malcolm Allan yn dod a Nic Parry lawr i'w lefel o. Dweud wrthom pwy sydd ar y bel, Nic a gofyn i Malcolm am ei farn pan mae yna doriad yn y chwarae. Dyna be oedd yn digwydd yn yr Ewro yn Ffrainc, ond mae pethau wedi mynd yn fler ers hynny. Dylai S4C roi bwtwm iddo i fudo Malcolm pan mae'n mynd ymlaen rhy hir.
Malcolm Allan: Mae'n medru bod yn ddiddorol, ond mae ei frawddegau yn mynd yn baragraffau hyd tudalen a mwy. Dylai S4C gael gramadegydd o'r Brifysgol i'w addysgu ar bleserau a dirgelion atalnodi.
Gwennan Harris: Hoff iawn o Gwennan, mae'n dda iawn. Dylai S4C brynu Crys a Shorts Coch a Gwyn Cymru dau seis rhy fyr iddi wisgo.
|
|
|
Post by derynglas on Nov 1, 2021 8:53:10 GMT
Maer Cymraeg yn dda gyda cwpwl o bwyntiau diddorol.
Wedi diffetha gyda sylw braidd yn rhywiaethol ar Gwennan Harris ar y diwedd.
Mae agweddau fel hyn ddim yn dderbyniol ar y fforwm hon na unrhuw fforwm arall yn 2021.
Trolio Cymraeg yw hyn.
|
|
|
Post by cogancoronation31 on Feb 14, 2022 12:42:59 GMT
Beth am 'gymysgu pethe lan' a gwahodd y canlynol (nid fel sylwebyddion pur) ond fel lleisiau cefndir newydd/gwahanol ar gyfer mis Mawrth: Emyr Huws / Osian Roberts / Owain Fon ?
|
|
|
Post by cogancoronation31 on Feb 14, 2022 12:49:48 GMT
Serch hynny... Dylwn ychwanegu, gyda llaw, fy mod innau hefyd yn meddwl bod sylwadau Gwennan Harries yn dreiddgar iawn - byth yn ofn dweud pethe 'fel y maent'.
|
|
|
Post by cogancoronation31 on Mar 26, 2022 15:13:39 GMT
Wnaeth Dylan Ebs, Gwennan Harries a John Hartson jobyn da 'pitchside' y noson o'r blaen (O, am noson!) ac roedd Sioned Dafydd yn dda yn cyfweld. Y prif sylwebwyr ar y gêm yn grêt hefyd, ond Dafydd Iwan oedd y seren!
|
|
|
Post by iantov on Jun 9, 2022 19:08:09 GMT
Gwennan yn lle Lineker cyn bo hyr...
|
|
|
Post by Dubai Reds on Jun 10, 2022 5:00:34 GMT
Dwi yr unig un sydd yn meddwl fod Gwennan Harris yn cwyno llawer yn ei sylwebu?
Welais i "Un gam o Qatar" ac odd hi'n cwyno amdano Ward yn erbyn y Tsiec.
Yn erbyn yr Iseldiroedd odd bron pob beth odd hi'n ddweud yn eithaf negyddol.
Ffrindiau gatre yn cael yr un barn.
Credu achos odd hi'n cwyno yn gem Tlws Wrecsam a Bromley hefyd fod gen i argraff o sut mae farn hi'n dod dros.
|
|
|
Post by cogancoronation31 on Jun 10, 2022 13:01:31 GMT
Gwennan yw Roy Keane Cymru! Ond mae hi'n aml yn llygad ei lle gyda'i sylwadau.
Rhaid cofio serch hynny ei bod hi'n fodlon canmol pan fo hynny'n briodol.
|
|
|
Post by iantov on Jul 15, 2022 18:27:05 GMT
Dwi yr unig un sydd yn meddwl fod Gwennan Harris yn cwyno llawer yn ei sylwebu? Welais i "Un gam o Qatar" ac odd hi'n cwyno amdano Ward yn erbyn y Tsiec. Yn erbyn yr Iseldiroedd odd bron pob beth odd hi'n ddweud yn eithaf negyddol. Ffrindiau gatre yn cael yr un barn. Credu achos odd hi'n cwyno yn gem Tlws Wrecsam a Bromley hefyd fod gen i argraff o sut mae farn hi'n dod dros. Dim ond ti mae'n debyg ...!!?!!
|
|