|
Post by mrpicton on Sept 23, 2022 21:13:59 GMT
Jest rhoi hwn fyny fel testyn - gan ei fod yn swnio mor dda!
|
|
|
Post by cadno on Sept 24, 2022 21:05:19 GMT
Gobeitho bydd pawb sy'n mynd mas yn cael amser ffantastic!
Fi'n edrych mlaen nawr, byddain gwylio'r gemau gartre gyda dished o de shwr o fod!
Fi jyst yn gobeitho newn ni'n oreit, byddai'n buzzing os ewn ni mas o'r grwp. Mae'r gem gynta erbyn UDA yn anferth!
Neis clywed Wayne Hennessey yn gweud bod ni'n mynd mas 'na i ennill - agwedd cywir!
|
|
|
Post by bale-droed on Sept 25, 2022 3:03:02 GMT
Rydw i methu ffeindio rhywle I aros yn Doha ond wrth gwrs dal I edrych ymlaen
|
|
|
Post by mrpicton on Sept 26, 2022 20:18:29 GMT
Edrych ymlaen nawr. Mynd i't ddwy gem gyntaf. Aros yn Dubai - ac yn hedfan i fewn ar gyfer y gemau.
|
|
|
Post by derynglas on Sept 29, 2022 8:19:31 GMT
Mynd i'r ddwy gem cyntaf ( 4 ohono ni ) ond gyda Wonky sheep ac aros yn Doha.
Braidd yn difari bod ni ddim yn mynd i gem Lloegr ar ol clywed araith Michael Sheen rhaid gweud!
Ond eithaf hapus gydar trip i weud y gwir ac edrych mlaen nawr.
|
|
|
Post by mrpicton on Sept 30, 2022 11:16:27 GMT
Newyddion am y PCR ddim yn dda ir rhia fel fi yn aros yn Dwbai.
|
|
|
Post by cogancoronation31 on Nov 14, 2022 10:59:33 GMT
Dim ond wythnos i fynd!
Pawb yn edrych ymlaen? Naill ai i fynd 'yn y cnawd' neu i wylio'r gemau yng Nghymru?
Fy narogan i: Cymru 1-0 UDA, Cymru 1-0 Iran, Cymru 1-1 Lloegr.
Ac yna gobeithio osgoi'r Iseldiroedd yn y rownd nesaf, a chwarae Ecuador/Qatar/Senegal am le yn y Q-Ffeinals!
|
|
|
Post by allezlesrouges on Nov 15, 2022 12:35:57 GMT
Dim ond wythnos i fynd! Pawb yn edrych ymlaen? Naill ai i fynd 'yn y cnawd' neu i wylio'r gemau yng Nghymru? Fy narogan i: Cymru 1-0 UDA, Cymru 1-0 Iran, Cymru 1-1 Lloegr. Ac yna gobeithio osgoi'r Iseldiroedd yn y rownd nesaf, a chwarae Ecuador/Qatar/Senegal am le yn y Q-Ffeinals! Rîli edrych ymlaen nawr. Roeddwn i'n teimlo rhyfedd gwpl wythnos yn nôl, achos mae wedi ddim yn teimlo fel amser Cwpan y Byd, ac mae pobl roedd yn canolbwyntio ar bêl-droed y clwb. Felly, llai build-up, ond fi'n teimlo cyffrous nawr Gwylio'r gemau yng Nghymru efo ffrindiau. Byddai wylio'r gêm yn erbyn UDA at watch-party efo ffrindiau, a wedyn y gêm yn erbyn Iran yn Nhreganna. Byddai nerfus i wylio'r gêm yn erbyn Lloegr, felly efallai gwylio hwnna o adre Fy narogan i: Cymru 2-1 UDA, Cymru 1-0 Iran, Cymru 0-0 Lloegr Dw i'n meddwl Yr Iseldiroedd bydd ennill Grŵp A yn hawdd. Senegal yn wedi colli Sadio Mane nawr, felly dw i'n meddwl maen nhw yn drafferth. Ecwador yn well na phobl meddwl, felly dw i'n meddwl Ecwador bydd 2ail Mae Ecwador yn amddiffynnol iawn, felly byddwn i'n teimlo 50/50 siawns i symud i'r rownd yr wyth olaf yn erbyn nhw
|
|
|
Post by cogancoronation31 on Nov 29, 2022 17:23:00 GMT
Hmmm... does neb wedi darogan yn gywir hyd yma!
Dyma drïo eto : Cymru 1-0 Lloegr am heno.
P'run ai fydd hynny'n ddigon ai peidio, dim ond ffawd all benderfynu - er mae Oddschecker yn cynnig 5/2 fel rhyw gyfartaledd o "odds" am i gêm Iran/UDA orffen yn gyfartal - ddim yn chwip o "odds" o bell ffordd - felly mae lle i led-obeithio o hyd bod "yr anhebygol yn bosib", ac y cawn ni allan o'r grwp!
Cymru Am Byth!
|
|