|
Post by Pierre Mauroy on Dec 14, 2022 22:00:14 GMT
'Rwyf newydd wylio'r ail gem gyn-derfynol yng Nghwpan y Byd - 'roedd rhaid i mi gefnogi'r tim drechodd y Saeson, er gwaetha Osian - ac unwaith eto mae'n mynd trwy fy meddwl i, mewn faint o wledydd yn y byd fuaswn i'n gorfod gwylio gem fel hon mewn iaith estron? Oes yna unrhyw reswm cyfreithiol neu gytundebol na fedr S4C ddarlledu gemau fel hyn?
Pel-droed yw gem fwya poblogaidd y byd, ac fe ddylai ein sianel eu dangos - mae nhw'n boddi ni mewn gemau ail gem fwyaf poblogaidd Cymru!
Oes yna rhywun yn cytuno?
Fel ol-nodyn, pam Qatar? 'Does dim Q yn y Gymraeg, felly dylai gael ei sillafu efo C - Catar.
|
|
|
Post by Pierre Mauroy on Dec 21, 2022 7:07:44 GMT
Ys gwn i a oedd y ddau Archentwr o Batagonia welais i ar newyddion S4C yn dweud wrthym, yng Nghymraeg, pa mor hapus oeddynt o weld Yr Ariannin yn ennill Cwpan y Byd, ys gwn i a oeddynt yn siomedig eu bod yn gorfod gwylio'r ffeinal yn Saesneg, a nhwthau yng Nghymru?
Dylai'r gohebydd fod wedi gofyn iddynt - oes na neb yn cytuno y dylai S4C ddangos gemau fel hyn?
|
|