|
Post by derynglas on Jul 30, 2023 10:07:02 GMT
Cyngreiriau JD Cymrur Gogledd ar De wedi dechrau y penwythnos hon. Yn y gogledd,CBD Bangor 1876 yn ennill 6-0 yn erbyn Llanidloes ar ei dychweliad ir ail haen,neu falle ar ei debut gan bod nw yn glwb newydd wrth gwrs! Torf o dros 600 yn Nantporth yn gweld nw yn mynd ar y brig,am y tro beth bynnag. Yn y de,Llansawel yn ennill 2-0 yn erbyn Llanelli y fefrynnau am dyrchafiad oedd wedi gorffen yn ail llynedd.
Y Cymru Premier ddim yn dechrau am bythefnos eto ,ond mae cwpan y gyngrair yn dechrau penwythnos nesa.Canlyniad diddorol ddoe gyda Penybont yn ennill 5-0 yn erbyn Merthyr. Oedd Merthyr wedi ennill 3-2 yn erbyn Barri wythnos diwetha.Ydi Merthyr digon da i fod yn y Cymru Premier?Duw a wyr!Ddim digon da i fod yn yr hanner uchaf efallai,anodd i weud ar 2 gem gyfeillgar wrth gwrs.
|
|
|
Post by allezlesrouges on Aug 5, 2023 21:18:13 GMT
Cyngreiriau JD Cymrur Gogledd ar De wedi dechrau y penwythnos hon. Yn y gogledd,CBD Bangor 1876 yn ennill 6-0 yn erbyn Llanidloes ar ei dychweliad ir ail haen,neu falle ar ei debut gan bod nw yn glwb newydd wrth gwrs! Torf o dros 600 yn Nantporth yn gweld nw yn mynd ar y brig,am y tro beth bynnag. Yn y de,Llansawel yn ennill 2-0 yn erbyn Llanelli y fefrynnau am dyrchafiad oedd wedi gorffen yn ail llynedd. Y Cymru Premier ddim yn dechrau am bythefnos eto ,ond mae cwpan y gyngrair yn dechrau penwythnos nesa.Canlyniad diddorol ddoe gyda Penybont yn ennill 5-0 yn erbyn Merthyr. Oedd Merthyr wedi ennill 3-2 yn erbyn Barri wythnos diwetha.Ydi Merthyr digon da i fod yn y Cymru Premier?Duw a wyr!Ddim digon da i fod yn yr hanner uchaf efallai,anodd i weud ar 2 gem gyfeillgar wrth gwrs. Byddwn i'n ddiddordeb i weld Merthyr yn y Cymru Premier, dw i'n meddwl mae nhw'n ddigon da i chwarae at y lefel, ond dw i ddim yn meddwl mae nhw'n dîm hanner uchaf yn y Cymru Premier Cyffrous i weld Bae Colwyn chwarae yna am amser cynta. Gobeithio am attendance mawr am hwnna Dw i jyst gobeithio mae'r title race yn lot mwy closach na'r tymor diwetha. Efallai Hwlffordd a Chei Connah yn gallu pwshio'r Seintiau Newydd, mae Hwlffordd yn wedi edrych da yn Ewrop
|
|
|
Post by derynglas on Nov 5, 2023 16:35:13 GMT
3 pwynt pwysig ddoe i Hwlffordd ar ol ennill 5-0 gartre yn erbyn Bae Colwyn. Roedd yr Adar Glas yn llawn hyder a clinigol o flaen gol or diwedd. Efallai ddim mor un ochrog a maen dangos achos fe naeth Zac Jones tua 5 arbediad gwych yn yr ail hanner i gadw llechen lan. Roedd dilyniad da iawn gyda Bae Colwyn,y gorau yma ers rhai blynyddau,ac ymddangos bod y cefnogwyr wedi mwynhau eu penwythnos yn sir Benfro am ei gem cyntaf yn Hwlffordd yn y CP, er gwaethaf y canlyniad!Mae angen clwbiau fel hyn yn y gyngrair.
Newyddion o Pontypridd o problemmau posibl yn yr wythnos.Ond maen amlwg bod digon o gallu ac ysbryd dal yn y garfan i sicrhai gem ddi sgor a pwynt yn Bala.
Rhediad Cei Connah o 12 gem di guro yn dod i ben yn sudan yn y brifddinas a buddugoliaeth o 3-1 i Met Caerdydd,er bod y myfyrwyr wedi mynd lawr i 10 dyn yn yr hanner cyntaf, yn dal mlaen i gael y 3 pwynt a cipio trydydd safle am y tro.
Toriad or gyngrair wythnos nesaf gyda clwbiau yn troi ei sylw at 3dedd rownd cwpan Cymru.
|
|
|
Post by derynglas on Jan 6, 2024 8:48:19 GMT
Maen debyg bod Penybont wedi cael ei cosbi 3 pwynt gan panel disgybli y CPC ac felly ddim yn gallu gorffen yn y chwech uchaf am ail hanner y tymor.
Mae nawr rhwng Caernarfon a Hwlffordd am y safle diwetha ar gael. Os fydd y Cofis yn ennill yn Met Caerdydd sadwrn nesa (gem fyw ar S4C 5 OR GLOCH),fydda nw drwodd. Os gem gyfartal,fydd rhaid i Hwlffordd ennill o 3 gol o leia gatre i Bala. Os fydd y Cofis yn colli,rhaid i Hwlffordd ennill y gem yn erbyn Bala,unrhyw sgor.
Diweddglo cyffroes ir rhan cynta or tymor felly.
|
|
|
Post by derynglas on Jan 14, 2024 22:20:43 GMT
Diweddglo dramatig ddoe i rhan gyntaf o tymor y Cymru Premier . Caernarfon yn sicrhau ei lle yn y chwech uchaf gyda pwynt yn y brifddinas yn erbyn Met Caerdydd,Danny Gosset yn unionir sgor yn hwyr yn gem am gem gyfartal,2-2. Roedd Hwlffordd yn y chwech uchaf am tua chwarter awr,ar y blaen yn erbyn Bala gydar Cofis yn colli.Bala un unioni a mynd ar y blaen cyn i Ben Fawcett taro nol 97 munud, ond Luke Wall yn sicrhau y tri pwynt i Bala yn munud 99,anhygoel! Drama ar y gwaelod gyda diweddglo dramatic yn Bae Colwyn a Pontypridd yn sicrgau tri phwint yn hwyr yn y gem,3-2. Barri yn dod nol i ennill 4-2 yn Aber ar ol bod lawr ar hanner amser. Felly Hwlffordd,Penybont a Barri yn edrych yn saff ac yn brwydro am y 7fed safle a r gemau ail gyfle. Pontypridd,Bae Colwyn ac Aberystwyth yn brwydro yn erbyn y cwymp mawr ir ail haen.
|
|
|
Post by derynglas on May 11, 2024 0:51:43 GMT
Llongyfarchiadau I Caernarfon am gyrraedd round derfynnol gemau ail gyfle am Ewrob heno. Roedd Met Caerdydd wedi rhoi perfformiad dda mewn a wedi creu sawl cyfle.Ond goliau hwyr gan Marc Williams a Adam Davies yn sicrhau buddigoliaeth ir Cofis o flaen torf o 1285.
Y gem arall fory rhwng y Drenewydd a Penybont a disgwylir gem agos arrall,anodd I galw.Os fydd y tim gatre yn ennill ar Parc Latham nw fydd adre yn y ffeinal sadwrn nesa.Ond buddigoliaeth I Penybont a fydd y gem yn Caernarfon a cyfle da ir Cofis sirhau lle yn Ewrob am y tro cyntaf yn ei hanes.
|
|
|
Post by derynglas on May 12, 2024 9:36:15 GMT
Well doedd hi ddim yn gem agos ddoe beth bynnag! 5-0 i Penybont,perfformiad perffaith, ar Drenewydd heb ateb i chwarae a gorffen clinigol y Bont.
Torf arall da o 1087 yn Parc Latham yn yr haul.
Disgwylir efallai torf orau y tymor yn yr Ofal am y rownd derfynnol withnos nesaf. Gobeithio digon o goliau,gyda digon o ymosodwyr talentog yn y ddau tim .
|
|