|
Post by mrpicton on Oct 18, 2023 21:03:44 GMT
Gyda Hennessey, Ward & Adam Davies i gyd yn mynd yn hen pwy sydd i ddod i mewn?
Dyma'r safle rwan gyda'r pryder mwyaf
|
|
|
Post by melynwy on Oct 18, 2023 21:47:56 GMT
Dim ond 30 ydi Ward felly blynyddoedd ar ol. Nid yr oedran ydi’r broblem, ond y ffaith ein bod ni’n ddelfrydol angen rhywun gwell!
|
|
|
Post by mrpicton on Oct 19, 2023 12:02:55 GMT
Hennessey 36, Davies 31, Ward 30, King 28. Does na neb (eto) ogwmpas 20-25 yn dod drwodd - dylai rhywun o leiaf o'r oedran yma yn gwneud y fainc!
|
|
|
Post by Eileen Beasley on Dec 19, 2023 22:54:46 GMT
Owen Evans, Walsall, dim ond 27!!
|
|
|
Post by derynglas on Jan 1, 2024 9:33:53 GMT
Hari Thomas,yn tim cyntaf Caernarfon ers rhai wythnosau, oedran 16. Perfformiad da ddoe yn erbyn Bae Colwyn o flaen camerau sgorio. Cyfweliad yn gymraeg gyda Nicky John ar ol y gem. Un am y dyfodol,maen siwr.Gwyliwch y gofod hwn !
|
|
|
Post by mrpicton on Jan 13, 2024 12:45:57 GMT
Angen i Ward symud yn y ffenest drosglwyddo yma - Caerdydd hefo diddordeb ynddo.
|
|