|
Post by bale-droed on Aug 10, 2016 17:05:34 GMT
Pwy sydd yn fynd I enill y tymor yma?
Unrhyw chwaraewyr newydd yn ddod i'r cynghrair cyn i'r tymor ddechrau?
esiai siarad amdan y gemau sydd yn fyw ar sgorio? Dyma'r lle I siarad amdan popeth or uwch gyngrair ein gwlad bach ni
|
|
|
Post by maelor on Aug 11, 2016 21:40:47 GMT
Problem fawr Uwch Gynghrair Cymru ydy'r ffaith ei bod hi mor hawdd ateb dy gwestiwn cyntaf di. Mae pawb yn gwybod ei bod hi bron yn sicr y bydd TNS yn ennill y Cynghrair er ei fod o heb ddechrau eto.
Penodiad diddorol wrth i Andy Legg ddod yn rheolwr ar Fangor ond mae amheuon go fawr am berchnogion newydd y Clwb (neu'r rheiny sydd y tu ôl iddyn nhw). Taswn i'n gefnogwr Bangor, baswn i'n poeni.
|
|
|
Post by bale-droed on Aug 12, 2016 15:54:47 GMT
Problem fawr Uwch Gynghrair Cymru ydy'r ffaith ei bod hi mor hawdd ateb dy gwestiwn cyntaf di. Mae pawb yn gwybod ei bod hi bron yn sicr y bydd TNS yn ennill y Cynghrair er ei fod o heb ddechrau eto. Penodiad diddorol wrth i Andy Legg ddod yn rheolwr ar Fangor ond mae amheuon go fawr am berchnogion newydd y Clwb (neu'r rheiny sydd y tu ôl iddyn nhw). Taswn i'n gefnogwr Bangor, baswn i'n poeni. Efo Bangor fe all Nardiello fod yn chwaraewr fawr fawr iawn iddyn nhw! Mae'n fynd I sgorio llawer o goliau Fi ddim yn credu fod TNS yn fynd I enill y tymor yma efo 18 pwynt neu fwy y tymor yma ond yn sicr mae nhw yn fynd I gorffen yn gyntaf.
|
|
|
Post by maelor on Aug 13, 2016 8:54:59 GMT
Cychwyn da gan Fangor neithiwr wrth guro Derwyddon Cefn 2-1. A thorf barchus o dros 600.
|
|
|
Post by toshfan on Aug 15, 2016 11:38:15 GMT
Fe fydd e'n diddorol i wylio'r gynnydd gan Met Caerdydd. Fe fydden nhw'n heini mwyaf yn y Gynghrair a wi'n disgwyl lot i siarad amdano nhw'n aros ar y cae hanner amser
|
|
|
Post by iwanev on Aug 16, 2016 17:58:37 GMT
Fe fydd e'n diddorol i wylio'r gynnydd gan Met Caerdydd. Fe fydden nhw'n heini mwyaf yn y Gynghrair a wi'n disgwyl lot i siarad amdano nhw'n aros ar y cae hanner amser Bydd hi'n ddiddorol gweld maint torfeydd Met Caerdydd. Galle gemau Bangor, Aber etc ddenu llawer o gefnogwyr oddi cartre sy'n byw yng Nghaerdydd
|
|
|
Post by derynglas on Aug 26, 2016 12:02:47 GMT
Adroddiadau ar twitter bod Derwyddon Cefn wedi dechrau adeiladu eu cae Newydd 3g ac fe fydda nw yn chwarau eu 4 gem gartef nesaf (dechrau fory yn erbyn Met Caerdydd) yn Neuadd y Parc,cartref TNS.
|
|
|
Post by llannerch on Aug 26, 2016 21:05:04 GMT
Oes na unrhyw un yn bwriadu mynd i'r gem Met Caerdydd a'r Seintiau Newydd? Meddwl am fynd gyda fy mab. Da gweld y WPL nol yn y brifddinas
|
|
|
Post by derynglas on Aug 28, 2016 9:22:42 GMT
Da i weld bod Lee Trundle wedi cael hat-trick yn ei gem cyntaf i Llanelli ddoe fel bod nw yn ennill 3-2 yn Aberdar.Maen ymddangos bod y cochion yn meddwl busnes eleni.Gobeithio fydd hi ddim rhy hir cyn fydda nw yn herio am lle yn yr Uwch Gyngrair eto.Angen mwy o glybiau or de,gyda dim ond Caerfyrddin a Met Caerdydd ar y foment ar y lefel ychaf.Yn y cyfamser,os fydd Llanelli ar brig adran 2,a Trundle yn sgorio yn rheolaidd,dwin siwr fydd y torfeydd yn heidio nol i Stebo.
|
|