|
Post by toshfan on Aug 15, 2016 11:43:14 GMT
Emyr Huws yw Cymro Cymraeg. Aaron Ramsey oedd Cymro Cymraeg. Tybed pwy oedd Cymry Cymraeg arall yn yr hanes o'r clwb (neu presennol)?
|
|
|
Post by cymroircarn on Aug 15, 2016 15:11:53 GMT
Dwi'n meddwl mae Jack Evans (Bala Bang) nath sgorio y Gol cyntaf yn hen Parc Ninian
Fo oedd y Cymro cyntaf i gael cap i Gymru tra yn chware i Gaerdydd
Gan fod o yn wreiddiol o'r Bala o dechrau y ganrif dwytha faswn i yn disgwyl fod o yn siarad Cymraeg?
|
|
|
Post by bale-droed on Aug 15, 2016 19:29:10 GMT
|
|
|
Post by iwanev on Aug 16, 2016 17:53:07 GMT
Mark Aizelwood hefyd
|
|
|
Post by llannerch on Aug 17, 2016 17:36:24 GMT
Y bachgen a allai gynrychioli Barbuda hefyd. Sa i'n gallu cofio ei enw, neu a chwaraeodd dros Gaerdydd chwaith. Mae e wedi gadael y clwb nawr. Felly tenuous iawn!
|
|
|
Post by bracklablue72 on Aug 17, 2016 20:39:47 GMT
Y bachgen a allai gynrychioli Barbuda hefyd. Sa i'n gallu cofio ei enw, neu a chwaraeodd dros Gaerdydd chwaith. Mae e wedi gadael y clwb nawr. Felly tenuous iawn! Nat Jarvis?
|
|
|
Post by toshfan on Aug 18, 2016 10:43:52 GMT
Fe aeth Jarvis i Ysgol Plasmawr yng Nghaerdydd.
|
|
|
Post by maelor on Aug 20, 2016 10:44:33 GMT
Mi oedd na ryw foi o ardal Caerfyrddin rai blynyddoedd yn ôl (ddim yn cofio ei enw). Dwi'n meddwl ei fod wedi bod yn Leeds yr un pryd a Matty Jones ac mi aeth o fan na i Gaerdydd (dwi'n meddwl!). Gen i ryw syniad ei fod o'n gefnwr de, ond eto, ddim yn siwr. Dwi'n cofio iddo gael ei gyfweld sawl gwaith ar Radio Cymru. Dwi ddim yn gwybod beth ddigwyddodd iddo yn y diwedd.
|
|
|
Post by majorraglan on Aug 20, 2016 23:35:28 GMT
Wyt ti'n meddwl am Mark Delaney, cyn chwaraewr i Dre Caerfyrddin, Dinas Caerdydd a Aston Villa? Bachgen o areal Hwlfordd yw e.
|
|
|
Post by toshfan on Aug 22, 2016 15:20:19 GMT
Wyt ti'n meddwl am Mark Delaney, cyn chwaraewr i Dre Caerfyrddin, Dinas Caerdydd a Aston Villa? Bachgen o areal Hwlfordd yw e. Doedd e ddim Cymro Cymraeg.
|
|
|
Post by llannerch on Aug 22, 2016 16:18:19 GMT
Mi oedd na ryw foi o ardal Caerfyrddin rai blynyddoedd yn ôl (ddim yn cofio ei enw). Dwi'n meddwl ei fod wedi bod yn Leeds yr un pryd a Matty Jones ac mi aeth o fan na i Gaerdydd (dwi'n meddwl!). Gen i ryw syniad ei fod o'n gefnwr de, ond eto, ddim yn siwr. Dwi'n cofio iddo gael ei gyfweld sawl gwaith ar Radio Cymru. Dwi ddim yn gwybod beth ddigwyddodd iddo yn y diwedd. Kevin Evans?
|
|
|
Post by cymroircarn on Aug 22, 2016 16:23:17 GMT
|
|
|
Post by cymroircarn on Aug 27, 2016 7:49:30 GMT
Mi oedd na ryw foi o ardal Caerfyrddin rai blynyddoedd yn ôl (ddim yn cofio ei enw). Dwi'n meddwl ei fod wedi bod yn Leeds yr un pryd a Matty Jones ac mi aeth o fan na i Gaerdydd (dwi'n meddwl!). Gen i ryw syniad ei fod o'n gefnwr de, ond eto, ddim yn siwr. Dwi'n cofio iddo gael ei gyfweld sawl gwaith ar Radio Cymru. Dwi ddim yn gwybod beth ddigwyddodd iddo yn y diwedd. Kevin Evans?
|
|
|
Post by CymruFach on Aug 27, 2016 20:09:58 GMT
Malcolm Allen, Iwan Robers, Dai Davies, Wyn Davies, Joe Allen', Ben Davies,
Dysgwr Cymraeg oedd Mark Aizelwood
|
|
|
Post by cymroircarn on Aug 27, 2016 21:14:39 GMT
Malcolm Allen, Iwan Robers, Dai Davies, Wyn Davies, Joe Allen', Ben Davies, Dysgwr Cymraeg oedd Mark Aizelwood Nath Aizelwood curo dysgwr y flwyddyn? Oes angen gwahaniaethu?
|
|
|
Post by CymruFach on Aug 28, 2016 7:40:57 GMT
Malcolm Allen, Iwan Robers, Dai Davies, Wyn Davies, Joe Allen', Ben Davies, Dysgwr Cymraeg oedd Mark Aizelwood Nath Aizelwood curo dysgwr y flwyddyn? Oes angen gwahaniaethu? Do fe wnaeth doeddwn I ddim yn gwahaniathu.. pam mae Pobol yn darllen pethe I fewn I gyfraniadau sydd ddim yna!
|
|
|
Post by llannerch on Aug 30, 2016 21:06:41 GMT
Nath Aizelwood curo dysgwr y flwyddyn? Oes angen gwahaniaethu? Do fe wnaeth doeddwn I ddim yn gwahaniathu.. pam mae Pobol yn darllen pethe I fewn I gyfraniadau sydd ddim yna! Gwnaeth e'n dda iawn. Mae rhieni Sais gyda fe. Dwi'n cofio gweitho dros Acen yng Nghaerdydd ar brofiad gwaith ac byddai e'n dod mewn am ei wersi
|
|
|
Post by cymroircarn on Aug 30, 2016 21:24:51 GMT
Nath Aizelwood curo dysgwr y flwyddyn? Oes angen gwahaniaethu? Do fe wnaeth doeddwn I ddim yn gwahaniathu.. pam mae Pobol yn darllen pethe I fewn I gyfraniadau sydd ddim yna! Wel mi nes di rhestri enwau a gadael un allan a wedyn pwysleisio ei fod yn ddysgwr? Dyna pam nesh i ofyn.
|
|
|
Post by CymruFach on Aug 31, 2016 22:51:45 GMT
Do fe wnaeth doeddwn I ddim yn gwahaniathu.. pam mae Pobol yn darllen pethe I fewn I gyfraniadau sydd ddim yna! Wel mi nes di rhestri enwau a gadael un allan a wedyn pwysleisio ei fod yn ddysgwr? Dyna pam nesh i ofyn. Jesus bloody wept, Beth sydd yn matar gyda chdi! fe wnes i rhestru enwau oedd heb ei enwi o'r blaen Ac wedyn trio ateb y cwestiwn am MA. Oedd wedi cael ei ofyn
|
|
|
Post by cymroircarn on Sept 1, 2016 9:49:04 GMT
Wel mi nes di rhestri enwau a gadael un allan a wedyn pwysleisio ei fod yn ddysgwr? Dyna pam nesh i ofyn. Jesus bloody wept, Beth sydd yn matar gyda chdi! fe wnes i rhestru enwau oedd heb ei enwi o'r blaen Ac wedyn trio ateb y cwestiwn am MA. Oedd wedi cael ei ofyn Negesfwrdd yw hwn i bobl cael deud ei barn. Nesh i ofyn cwestiwn, nes di ymateb. Sori doeddwn i ddim yn gwbod fyddi di mor sensitif i bobl ymateb i ti. Oes oeddet ti yn ateb cwestiwn a ddim yn hapus gyda fy ymateb fe fedri di bod wedi cyfathrebu hynny ar yr ymateb cyntaf yn lle gwylltio.
|
|
|
Post by maelor on Sept 4, 2016 17:31:50 GMT
Mi oedd na ryw foi o ardal Caerfyrddin rai blynyddoedd yn ôl (ddim yn cofio ei enw). Dwi'n meddwl ei fod wedi bod yn Leeds yr un pryd a Matty Jones ac mi aeth o fan na i Gaerdydd (dwi'n meddwl!). Gen i ryw syniad ei fod o'n gefnwr de, ond eto, ddim yn siwr. Dwi'n cofio iddo gael ei gyfweld sawl gwaith ar Radio Cymru. Dwi ddim yn gwybod beth ddigwyddodd iddo yn y diwedd. Kevin Evans? Ie, dwi'n meddwl mai dyna pwy oedd o. Diolch.
|
|