|
Post by bale-droed on Oct 1, 2016 23:32:10 GMT
Dim llawer yn digwydd ar y rhan yma or safle felli mae rhaid i rywun trio dechrau rhywbeth.
Tim 2016 sydd yn siarad Cymraeg
Hennesey/Fon Williams Jazz Richards B Davies J Allen Ramsey Huws Gwion Edwards Wes Burns
Pwy arall?
|
|
|
Post by cymroircarn on Oct 2, 2016 7:21:57 GMT
Ydi Hennessey a Jazz medru siarad Cymraeg? Heb clywed bo nhw medru o'r blaen?
|
|
|
Post by maelor on Oct 2, 2016 15:15:39 GMT
Ydi Hennessey a Jazz medru siarad Cymraeg? Heb clywed bo nhw medru o'r blaen? Ro'n i am ofyn yn union yr un cwestiwn. Dwi'n weddol sicr nad ydy Hennessey yn medru'r Gymraeg - wel, dim digon i fedru cynnal sgwrs gall ta beth. Fel arall mi fuasai fo wedi bod yn cael ei gyfweld ar y cyfryngau Cymraeg. Mae'n gyn ddisgybl Ysgol David Hughes (nes oedd o'n 14 oed, dwi'n meddwl) ond dim ond rhyw draean o'r ysgol sy'n dod o gartrefi Cymraeg ac mae llawer o'r disgyblion yn y ffrwd Saesneg.
|
|
|
Post by maelor on Oct 2, 2016 15:22:27 GMT
Dim llawer yn digwydd ar y rhan yma or safle felli mae rhaid i rywun trio dechrau rhywbeth. Tim 2016 sydd yn siarad Cymraeg Hennesey/Fon Williams Jazz Richards B Davies J Allen Ramsey Huws Gwion Edwards Wes Burns Pwy arall? Beth ydy hanes Wes Burns? Ai cynnyrch un o ysgolion Cymraeg y De ydy o? Ymddeoliad David Vaughan yn golled ieithyddol wrth gwrs. Trueni bod Aaron Ramsey wedi bod yn gwrthod gwneud cyfweliadau yn Gymraeg ers rhai blynyddoedd ar sail y ffaith, yn ei farn o, nad ydy ei Gymraeg "yn ddigon da". O be dwi'n ei gofio, doedd dim problem efo safon ei Gymraeg pan roedd o'n gwneud cyfweliadau ar ddechrau ei yrfa. Efallai y bydd modd ei berswadio i ddod allan o'r 'closet' rhyw ben.
|
|
|
Post by cymroircarn on Oct 2, 2016 16:25:09 GMT
Dim llawer yn digwydd ar y rhan yma or safle felli mae rhaid i rywun trio dechrau rhywbeth. Tim 2016 sydd yn siarad Cymraeg Hennesey/Fon Williams Jazz Richards B Davies J Allen Ramsey Huws Gwion Edwards Wes Burns Pwy arall? Beth ydy hanes Wes Burns? Ai cynnyrch un o ysgolion Cymraeg y De ydy o? Ymddeoliad David Vaughan yn golled ieithyddol wrth gwrs. Trueni bod Aaron Ramsey wedi bod yn gwrthod gwneud cyfweliadau yn Gymraeg ers rhai blynyddoedd ar sail y ffaith, yn ei farn o, nad ydy ei Gymraeg "yn ddigon da". O be dwi'n ei gofio, doedd dim problem efo safon ei Gymraeg pan roedd o'n gwneud cyfweliadau ar ddechrau ei yrfa. Efallai y bydd modd ei berswadio i ddod allan o'r 'closet' rhyw ben. Dwi meddwl fod Wes Burns yn gyn ddisgybl ysgol Bro Morgannwg yn y Barri?
|
|
|
Post by toshfan on Oct 2, 2016 20:47:28 GMT
Dwi meddwl fod Wes Burns yn gyn ddisgybl ysgol Bro Morgannwg yn y Barri? Fe aeth Wes Burns i Ysgol Bro Morgannwg yn wir. Fy ferch hynaf jyst wedi dechrau yno. Ar y wal, mae lot o lluniau o chwaraewyr rygbi a un o Wes Burns
|
|
|
Post by toshfan on Oct 2, 2016 21:18:49 GMT
Dim llawer yn digwydd ar y rhan yma or safle felli mae rhaid i rywun trio dechrau rhywbeth. Tim 2016 sydd yn siarad Cymraeg Hennesey/Fon Williams Jazz Richards B Davies J Allen Ramsey Huws Gwion Edwards Wes Burns Pwy arall? Gyda'u ysgolion (dydy Hennessey a Jazz ddim yn siarad Cymraeg): Fon Williams - Ysgol Dyffryn Nantlle B Davies - Ysgol Gyfun Ystalyfera J Allen - Ysgol y Preseli Ramsey - Ysgol Gyfun Cwm Rhymni Huws - Ysgol Gyfun Strade Gwion Edwards - Ysgol Dyffryn Teifi? (ddim yn sicr) Wes Burns - Ysgol Uwchradd Bro Morgannwg Brwydro am mwy: Gethin Jones - pa ysgol? Nat Jarvis - Ysgol Gymraeg Plasmawr
|
|
|
Post by cymroircarn on Oct 3, 2016 6:59:54 GMT
Jordan Willams - Ysgol y Garnedd
|
|
|
Post by cymroircarn on Jul 14, 2018 8:53:10 GMT
Gyda Gwion Edwards yn bosib yn symud i Ipswich, siawns mae fo fydd y siaradwr Cymraeg nesa i gael cap?
|
|
|
Post by cymroircarn on Sept 1, 2018 14:44:45 GMT
Trueni fod Gwion heb ei alw fyny - tro nesa gobeithio!
|
|
|
Post by garynysmon on Sept 14, 2018 13:36:07 GMT
Mae Hennessey yn dallt Cymraeg mwy na lai, ond ddim yn siaradwr rhugl o bell ffordd. Ddim yn beth anghyffredin iawn ym Miwmares.
|
|
|
Post by mrpicton on Sept 17, 2018 11:42:37 GMT
Gobeithio fwy i ddod i'r tim - "Stici" Cymraeg efallai i'r sgwrs?
|
|
|
Post by vaulksthrowfanclub on Feb 22, 2020 15:58:44 GMT
Mae gen i 11 dechreuol o Gymry Cymraeg sy’n chawarae ar hynno bryd:
Owen Evans (ar fenthyg o Wigan yn yr Ail Adran),
Tom James (Hibs), Cabango (Abertawe), Reynolds (Caerdydd d23), B.Davies,
Allen, Huws,
Gwion Edwards, Rambo, Wes Burns
Nat Jarvis (Chippenham Town ac Antigua a Barbwda)
Canol Cae gwych gan ystyried bo’ mond poblogaeth o ryw 750,000
|
|
|
Post by derynglas on Feb 23, 2020 10:38:21 GMT
Mae arolwg diweddara ONS (Mawrth 2019) yn amcangyfri bod bron 30% or boblogaeth nawr yn siarad Cymraeg, tua 896,900.
|
|
|
Post by Cymro1 on Mar 5, 2020 14:42:39 GMT
Ydy Jazz Richards yn siarad Cymraeg? Ben Cabango! Ofw Jazz Cabango Davies G.Jones Ramsey Huws Allen A.Edwards Burns G.Edwards Dwi 'di ychwanegi Aeron Edwards sy'n chwarae i TNS! Canol cae cryf
|
|
|
Post by Cymro1 on Mar 5, 2020 14:44:29 GMT
Liam Cullen, o sir Benfro?
|
|
|
Post by vaulksthrowfanclub on Mar 5, 2020 20:19:12 GMT
Dwi ddim ‘di weld unrhyw cyfweliad cymraeg gan Jazz. Byswn i’n meddwl ‘sa fo di gwneud press conference neu ddau os oedd o yn.
|
|
|
Post by allezlesrouges on Mar 9, 2021 22:21:45 GMT
Rubin Colwill. Siaradwyr o Ystalyfera. Aeth i'r Ysgol Gymraeg Castell-nedd & Ysgol Gymraeg Ystalyfera
|
|
|
Post by cogancoronation31 on Mar 15, 2021 16:50:56 GMT
'Does gan Neil Taylor ddim rhywfaint o Gymraeg? Cafodd ei addysg yn Rhuthun.
A siwr bod Harri Wilson yn medru brawddeg neu ddwy o'r heniaith? Boi o ochrau Corwen!
|
|
|
Post by allezlesrouges on Mar 15, 2021 18:08:22 GMT
|
|
|
Post by dlwilliams on Mar 23, 2021 16:25:54 GMT
'Does gan Neil Taylor ddim rhywfaint o Gymraeg? Cafodd ei addysg yn Rhuthun. A siwr bod Harri Wilson yn medru brawddeg neu ddwy o'r heniaith? Boi o ochrau Corwen! Cofio siarad gyda menyw o Gorwen ryw ddwy flynedd yn ôl oedd yn nabod teulu Wilson, a dywedodd hi nad yw'r teulu yn siaradwyr Cymraeg. Dwi'n meddwl iddi ddweud bod Corwen yn hanner a hanner o ran Cymraeg a Saesneg.
|
|