|
Post by toshfan on Dec 1, 2016 17:19:46 GMT
Mae'n werth i wylio'r pennod Hacio o wythnos diwethaf tra oedd ofyn os rygbi's syn angen codi eu gem ar ol y llwyddiant yn yr Ewros. Dechrau o 16:00
Gwrando i Gareth Davies. Roedd e'n wneud gwadu yn steil rygbi.
"Rygbi sy'n mwy traddodiadol yng Ngymru yn gyfredinnol"
"Rygbi sy'n wneud mwy na peldroed i hrwyddo'r iaith"
|
|
|
Post by dlwilliams on Jan 4, 2017 0:17:48 GMT
Gwyliais i hwn wythnos diwetha', cyn iddo ddiflannu o Clic.
Yr hyn oedd yn ddiddorol ac eithaf doniol oedd ei ymarweddiad yn gyffredinol. Y cwestiwn cyntaf iddo oedd rhywbeth fel: 'ar ôl llwyddiant Cymru yn yr Ewros, oes rhaid i URC godi eu gêm?'. Roedd ei ymarweddiad yn dweud cyfrolau. Roedd ei freichiau wedi'u plygu, a'i wyneb â golwg lem arno, fel pe bai wedi ei dramgwyddo gan y cwestiwn.
O ran ei ddatganiad bod rygbi yn fwy traddodiadol yng Nghymru, mae angen ei osod mewn cyd-destun a bod yn deg. Sai'n cofio'n union beth oedd dan sylw, ond fi'n credu mae gwneud y pwynt oedd ef mai URC sy'n gorfod ariannu rygbi i gyd yng Nghymru (ac felly'n gorfod gosod prisiau uchel am docynnau).
O ran ei ddatganiad bod URC yn gwneud mwy o ddydd i ddydd na CBDC, honiad amheus iawn! Ond, o'r hyn gallaf weld, mae gwefan Gymraeg URC wedi gwella.
Ar ddiwedd y dydd, faint o bŵer sydd gan Gareth Davies mewn gwirionedd? Nid ef yw'r Prif Weithredwr, sef y pennaeth go iawn fel arfer. O safbwynt y Gymraeg yn benodol, faint all e wneud?
|
|