|
Post by cymroircarn on Mar 14, 2018 17:58:57 GMT
Ma’r spam yn ddi-ddiwedd! Fel pla!
|
|
|
Post by pendragon on Mar 15, 2018 0:13:10 GMT
Oes - ca**u 😂 Dwi wedi syffedu ar y spam ma' i ddweud y gwir!
|
|
|
Post by cymroircarn on Mar 18, 2018 10:20:42 GMT
Mae o dal i ddod!
|
|
|
Post by cadno on Apr 2, 2018 14:09:58 GMT
Oes gair Cymraeg am Qualify?
|
|
|
Post by cymroircarn on Apr 15, 2018 7:45:27 GMT
Oes gair Cymraeg am Qualify? “Wedi cyrraedd” dwi di gweld mewn erthygl gan y BBC pan yn son am Ewro 16 Yn gymwys pan yn son am addysg, ond dio ddim yn swnio yn iawn i fi pan yn son am bel droed?
|
|
|
Post by dlwilliams on May 1, 2018 19:11:30 GMT
Oes gair Cymraeg am Qualify? Cymhwyso sydd yn Geiriadur yr Academi, ond dyw e erioed wedi gwreiddio mewn iaith bob dydd, neu yn yr achos yma, mewn iaith pêl-droed. Petai rhywun eisiau ei ddefnyddio yng nghyd-destun Cymru yn cyrraedd cystadleuaeth arall, gellir defnyddio 'mae Cymru wedi cymhwyso ar gyfer Ewro 2020'. Ond dyw e ddim yn swnio'n naturiol, rhywsut. Sy'n drueni, gan fod 'qualify' yn air mor eiconig yn Saesneg, yn enwedig yng nghyd-destun tîm Cymru. Gwell jyst defnyddio 'Cymru wedi cyrraedd X', mae lawer yn symlach. Roedd erthygl am y cwestiwn hwn ar BBC Cymru Fyw jyst ar ôl i Gymru gyrraedd Ewro 2016, os cofiaf yn iawn. Ond wedi methu dod o hyd iddi, yn anffodus.
|
|
|
Post by pendragon on May 26, 2018 23:07:45 GMT
Cymhwyso faswn i yn ei ddefnyddio i ddweud y gwir, ond un o Ynys Môn ydw i wedi'r cyfan 😉
|
|