|
Post by mrpicton on Sept 13, 2018 12:51:46 GMT
Clywed Calon Lan yn ystod y gem gyda Denmarc (ar anthem wrth gwrs) ond a oes rhai eraill sydd yn cael eu canu yn amal.?
|
|
|
Post by garynysmon on Sept 14, 2018 13:34:28 GMT
Mae'n biti does na ddim mwy. Mi glywish i rhai yn trio cychwyn 'Hogia Ni' yn Nenmarc dydd Sul heb fawr o lwc.
|
|
|
Post by Ger on Sept 14, 2018 15:24:34 GMT
Mae'n biti does na ddim mwy. Mi glywish i rhai yn trio cychwyn 'Hogia Ni' yn Nenmarc dydd Sul heb fawr o lwc. Nathoni drio hogia ni ond dim mwy na murmur oamgylch y cefnogwyr cymraeg yn dilyn
|
|
|
Post by cymroircarn on Sept 14, 2018 15:26:52 GMT
Faint sydd yn nabod y gan? Ydi y Cymry Cynraeg o du allan Gwynedd yn nabod y gan?
|
|
|
Post by garynysmon on Sept 14, 2018 15:28:49 GMT
Dwi o Ynys Mon a dwi'n nabod y gan.... Wrth feddwl am y peth, dwi'm yn ama fydd na ganran uwch o Gymry Cymraeg yn Nulun o gysidro pa mor hawdd ydi cyrraedd fanno o Gaergybi. Ella werth ymgais arall?
|
|
|
Post by Ger on Sept 14, 2018 16:33:12 GMT
Digon o wynedd a mon yn nabod y gan siawns. Trio hi eto yn dulun amdani
|
|
|
Post by mrpicton on Sept 15, 2018 18:53:15 GMT
Dwi ddim yn meddwl bod lot yn nabod y gan. Ar ol dweud hyn - cytgan reit hawdd - so felly siawns?. Y traffeth yw nad yw y tim cenedlaethol yn chwarae yn aml mewn blwyddyn (oi gymharu a clwb) - felly mae'n rhaid ir canueuon fod yn reit syml a "catchy". Pa rhai eraill sydd a siawns? Yma o hyd Rhedeg I baris Hen fenyw bach Cydweli? ?
|
|
|
Post by pendragon on Sept 19, 2018 23:12:20 GMT
Fe glywais i Yma o Hyd sawl gwaith yn Ffrainc yn ystod Ewro 2016.
Mae yna sawl gân gwerin hefyd sef, Y Gelynen, Hiraeth, O Fy Mrodyr I, Un, Sosban Fach?? 🙄
|
|
|
Post by fiveattheback on Sept 19, 2018 23:51:36 GMT
Pwy sy'nd dwad dros y bryn yn ddistaw, ddistaw bach? DAI BROOKS, DAI BROOKS
Oedden ni'n canu hwnna ar y ffordd i Clwb ar Dydd Sadwrn
|
|
|
Post by iantov on Sept 20, 2018 14:45:18 GMT
Dwi ddim yn meddwl bod lot yn nabod y gan. Ar ol dweud hyn - cytgan reit hawdd - so felly siawns?. Y traffeth yw nad yw y tim cenedlaethol yn chwarae yn aml mewn blwyddyn (oi gymharu a clwb) - felly mae'n rhaid ir canueuon fod yn reit syml a "catchy". Pa rhai eraill sydd a siawns? Yma o hyd Rhedeg I baris Hen fenyw bach Cydweli? ? Yma o Hyd - yn sicr. Mae'r gan hyn yn codi 'crud' arno'i bob tro...
|
|
|
Post by cymroircarn on Sept 20, 2018 16:09:54 GMT
Pwy sy'nd dwad dros y bryn yn ddistaw, ddistaw bach? DAI BROOKS, DAI BROOKS Oedden ni'n canu hwnna ar y ffordd i Clwb ar Dydd Sadwrn Licio hwn - oes na mwy iddo fo na jyst hyn? ;-)
|
|
|
Post by mrpicton on Sept 20, 2018 16:23:07 GMT
Pwy sy'nd dwad dros y bryn yn ddistaw, ddistaw bach? DAI BROOKS, DAI BROOKS Oedden ni'n canu hwnna ar y ffordd i Clwb ar Dydd Sadwrn Licio hwn - oes na mwy iddo fo na jyst hyn? ;-) Efallal "Tyrd yma - Tyrd i lawr" (y wing). Gan chwifio dwylo - tyrd atom ni? .
|
|
|
Post by mrpicton on Sept 20, 2018 16:30:33 GMT
"Dai B" bach yn mynd am dro .........
|
|
|
Post by cymroircarn on Sept 20, 2018 17:31:09 GMT
Pwy sy’n torri (rhedeg) mewn (lawr) o’r (y) wing (asgell?) yn ddistaw ddistaw bach?
Dai Brooks! Dai Brooks!
Helo, helo, tyrd yma sgoria gol i ni!
|
|
|
Post by mrpicton on Sept 21, 2018 11:03:25 GMT
Pwy sy’n torri (rhedeg) mewn (lawr) o’r (y) wing (asgell?) yn ddistaw ddistaw bach? Dai Brooks! Dai Brooks! Helo, helo, tyrd yma sgoria gol i ni! Cynning dda Ydi hwn yn gweithio ? - "Pwy sy'n dwad lawr y wing, yn ddistaw ddistaw bach? Dai Brooks Dai Brooks Helo, helo, tyrd yma, tyrd a gol i ni! ?
|
|
|
Post by mrpicton on Sept 21, 2018 15:24:46 GMT
Beth am
"Dai B" bach yn mynd am dro
Esgid newydd ar bob troed
"Dai B" bach yn dwad adre'
Wedi sgorio un o'n goliau
Dai B - bach.!
|
|
|
Post by fiveattheback on Sept 21, 2018 19:33:34 GMT
Pwy sy'nd dwad dros y bryn yn ddistaw, ddistaw bach? DAI BROOKS, DAI BROOKS Oedden ni'n canu hwnna ar y ffordd i Clwb ar Dydd Sadwrn Licio hwn - oes na mwy iddo fo na jyst hyn? ;-) Sai'n cofio lot ar ol hyn
|
|
|
Post by pendragon on Sept 24, 2018 14:02:00 GMT
Cofio hwn?
"Dacw mam yn dwad ar ben y gamddfa wen. Rywbeth yn ei phoced a piser ar ei phên..
Jim Crô Crystun ydy enw'r gân. Un o'r caneuon mwyaf "random" o fy mhlentyndod i!
Dwi'n siwr bod modd adnewyddu hwn a'i newid i sôn am y chwareuwyr..
|
|
|
Post by iantov on Nov 20, 2019 19:13:51 GMT
Dwi ddim yn meddwl bod lot yn nabod y gan. Ar ol dweud hyn - cytgan reit hawdd - so felly siawns?. Y traffeth yw nad yw y tim cenedlaethol yn chwarae yn aml mewn blwyddyn (oi gymharu a clwb) - felly mae'n rhaid ir canueuon fod yn reit syml a "catchy". Pa rhai eraill sydd a siawns? Yma o hyd Rhedeg I baris Hen fenyw bach Cydweli? ? Yma o Hyd - yn sicr. Mae'r gan hyn yn codi 'crud' arno'i bob tro... Ardderchog i glywed shwd gymaint oedd yn chanu'r y gan hyn neithiwr.
|
|
|
Post by selsigdeganwy on Nov 21, 2019 14:07:36 GMT
Beth am defnyddio'r cytgan "Milgi Milgi" ?
Cymru, Cymru, Cymru, Cymru, Rhowch fwy o bel i Brooksie Cymru, Cymru, Cymru, Cymru, Rhowch fwy o bel i Brooksie
|
|
|
Post by pendragon on Nov 22, 2019 11:58:21 GMT
Clywed Yma o Hyd yn wych!
Hefyd, weithiau, fyswn i'n hoffi os fysa ni fel cefnogwyr yn gweiddi "Cymru" yn hyteach nag "Wales" weithiau, gan fod FAW wedi dechrau mabwysiadu Cymru ar-lein!
|
|