|
Post by mrpicton on Sept 15, 2018 19:06:44 GMT
Mewn gemau oddi cartref - 25% efallai?
|
|
|
Post by derynglas on Sept 16, 2018 8:59:50 GMT
Pan oedden I yn teithio nol or Euros cwrddes I a fy gymodog ar y train yn Caerdydd,merch yfanc sy'n byw yn Caerdydd nawr, (ni'n byw yn Gogledd Sir Benfro). Wedodd hi bod yr Euros yn gret,ond oedd hi yn credu bod lot mwy o sharadwyr Cymraeg yn dilyn tim rygbi Cymru nar pel droed,bod yn peth mwy 'Cymraeg' yn ieithyddol.
Wedes I bod fi ddim yn credu bod hyn yn wir.Yn y lle cyntaf mae lawer mwy o bobol y gogledd yn dilyn y footy na rygbi gyda cannoedd yn dod o cadarnleoedd yr iaith yn Gwynnedd, ond hefyd lot o cefn gwlad gorllewin Cymru fel ni. Mae llawer o bobol yr hen Sin Roc Gymraeg yr wythdegau ar nawdegau yn teithio. Welo ni canwr Ail Symudiad a criw o sir Aberteifi yn Heathrow yn mynd i Denmark Wythnos diwethaf.(Ail Symudiad dal i fynd wrth gwrs!). So mae canran sharadwyr Cymraeg yn syn teithio i fwrdd eithaf uchel a iachus,o leia 25% falle mwy fasen I yn gweud.
|
|
|
Post by mrpicton on Sept 16, 2018 15:54:07 GMT
Cytunno bod mwy o gefnogwyr o ardaloedd Cymraeg eu iaith yn dilyn y pel droed (oi gymharu ar rygbi). Rydwi'n clywed fwy o Gymraeg yn y peldroed na'r rygbi pan mae Cymru yn chwarae. Hefyd rhai cofio bod prisiau ticedi ar gyfer y rygbi yn ddrud ~£40-50 gyda rhai gemau gyda ddim gostyngiad i blant = felly mae teluoedd o'r gorllewin ar gogledd yn fwy tebygol o fynd i weld y peldroed na'r rygbi yn fy marn i.
|
|
|
Post by pendragon on Sept 16, 2018 21:00:07 GMT
Faswn i'n meddwl fod y canran efalle yn debyg iawn i'r canran o siaradwyr Cymraeg o fewn y boblogaeth yn gyffredinol.
Oddeutu 20 - 30% y boblogaeth yn siarad Cymraeg. Mae'r canrân yma yn adlewyrchu'r nifer sydd yn siarad Cymraeg o fewn y tîm hefyd.
Rhyfedd fod fwy o Gymru Cymraeg yn cael eu cynrychioli o fewn y cymunedau pêl droed i gymharu efo rygbi erbyn hyn. Hyd yn oed ryw 15 mlynedd yn ôl, mi oedd hyn yn hollol groes i'r arfer!
|
|
|
Post by derynglas on Sept 22, 2018 8:40:44 GMT
Arolwg Newydd yn yr ONS yn dangos bod bron 30% or genedl yn siarad Cymraeg nawr. Sydd wedi codI o tua 25% deg blwyddyn nol, newyd sylweddol a calonogol. Efallai bod canran or cefnogwyr yn my nar disgwyl,efalai 30-35%.
|
|