|
Post by derynglas on Oct 3, 2018 16:34:15 GMT
Gyda'r Seintiau Newydd wedi cael tipyn o gweir yn y brifddinas yn erbyn Met Caerdydd ar y penwythnos,maen ymddangos efallai fydd y gyngrair yn mwy cystyadleiol eleni na am rhai blynyddau. Cei Connah ar y brig gyda 18 pwynt,YSN a Barri gyda 16,dyddiau cynnar ond Barri o bosib yn herio am ei pencampwriaeth cynta ddar 2003.
|
|
|
Post by iantov on Oct 4, 2018 14:32:35 GMT
Gyda'r Seintiau Newydd wedi cael tipyn o gweir yn y brifddinas yn erbyn Met Caerdydd ar y penwythnos,maen ymddangos efallai fydd y gyngrair yn mwy cystyadleiol eleni na am rhai blynyddau. Cei Connah ar y brig gyda 18 pwynt,YSN a Barri gyda 16,dyddiau cynnar ond Barri o bosib yn herio am ei pencampwriaeth cynta ddar 2003. Gobeithio mae'r tymor hyn yn parhau i'r diwedd....
|
|
|
Post by derynglas on Oct 6, 2018 16:36:45 GMT
Canlyniad y dydd heddiw efallai Llanelli yn teithio ir i Llandudno a dod nol gydar 3 point ar ol goliau gan James Loveridge a Jordan Follows,Mike Pearson yn sgorio i Llandudno. Llanelli wedi bod eitha cystadleuol ar ol colli o 7-0 gatre i Cei Connah yn y gem cyntaf,dal ar y gwaelod ond dim ond 1 pwynt ar ol Caerfyrddin a Llandudno. Tipyn o frwydr yn datblygu ar gwaelod y tabl ogystal ar brig,tymor eithaf diddorol i ddod efallai.
|
|
|
Post by derynglas on Oct 14, 2018 18:53:14 GMT
Canlyniad da iawn i Cei Connah yn Cwpan Irn Bru yr Alban neithiwr. Ennill 2-0 yn erbyn Coleraine fc o gogledd Iwerddon.Golie yn yr ail hanner gan George Horan a Andy Owen. Coleraine yn gorffen gyda 9 dyn yn y gwynt ar glaw yn stadiwm glannau Dyfrdwy. Nomadiaid yn yr 8 ola nawr.
|
|
|
Post by claretcymro on Oct 20, 2018 19:25:57 GMT
Y gynghrair yn llawer mwy cystadleuol y tymor yma. Gem dda yn mynd ymlaen rhwng y ddau dim ar y brig. Cei Connah wedi bod yn rheoli y gem am y 25 munud cyntaf ond yna Aeron Edwards yn sgorio gol wych i roi'r Seintiau ar y blaen. Torf o dros 1000 yn yr Oval eto neithiwr ond perfformans siomedig gan y Cofis wrth i'r Drenewydd, yn haeddianol, yn ei curo o 3-0. Roedd perfformiad y ddyfarnwraig Cheryl Foster o safon uchel a tydwi ddim yn meddwl y bod rhaid iddi ddangos cerdyn melyn drwy gydol y gem. Bwlch yn dechrau datblygu rhwng y tri tim ar y gwaelod - Llanelli,Caerfyrddin a Llandudno - a'r Derwyddion ag Aberystwyth sydd uwch ei pennau.
|
|
|
Post by derynglas on Nov 10, 2018 9:58:42 GMT
Argyfwng yn y Seintiau Newydd?Colli neithiwr eto,gartre ir Cofis,1-0. 1 pwynt a 1 gol mewn 3 gem,a chwarae Barri yn jenner park wythnos nesa. Gem arwyddocaol ar y brig heddi Cei Connah yn erbyn Barri,cyntaf erbyn ail.
|
|
|
Post by claretcymro on Nov 10, 2018 14:07:47 GMT
Ia, buddugoliaeth arbennig i Gaernarfon.Fe welais y gem rhwng y ddau dim yng Nghaernarfon ar ddechrau'r tymor ac er fod y Seintiau wedi enill 3-0 roedd y Cofis yn anlwcus i beidio cael pwynt y noson honno. Mae problemau y Seintiau o leiaf yn golygu fod y gynghrair yn llawer mwy cystadleuol y tymor yma.
Llandudno mewn mwy o drafferth yn y gwaelod ar ol colli adre o 4-2 yn erbyn y Bala.
|
|
|
Post by derynglas on Dec 1, 2018 10:01:45 GMT
Gweld bod Rhyl wedi ennill gem darbi fawr y gogledd neithiwr, wedi ennil 2-1 yn erbyn yr hen elyn,Bangor ar y Belle Vue. Od i weld y gem hon rhwng 2 o glwbiau mwyaf y pyramid Cymraeg yn cymryd lle nawr yn y Cymru Alliance. Dangos bod Rhyl wedi troir cornel nawr ar ol dechreiad gwael. Anodd iawn i weld un or ddau clwb yn dal Airbus Broughton nawr sydd ar y brig wedi ennill 13 mas o 13. Yn y de maer ras rhwng Penybont ar y brig,Hwlffordd syn 3dedd,a Cambrian a Clydach yn 6ed safle.Dyw Penybont na Cambrian erioed wedi sicrhau trwydded i chwarae yn yr Uwch gyngrair ond ymddangos bod y ddau yn gwneud ymdrech go-iawn y tymor hwn.
|
|
|
Post by barry on Dec 31, 2018 20:37:15 GMT
Caerdydd MU yn curo Barri 3-0 heddiw. Tipyn o sioc.
|
|
|
Post by claretcymro on Dec 31, 2018 22:27:51 GMT
Caerdydd MU yn curo Barri 3-0 heddiw. Tipyn o sioc. Ia canlyniad annisgwyl sydd yn agor y drws i Cei Connah ddychwelyd i'r brig os fedrant guro Y Bala fory. Mae pump o'r chwech ucha wedi ei setlo bellach a rwyn siwr mae Caernarfon fydd yn cipio y chweched safle ar drail Aberystwyth a Met Caerdydd. Mae'n braf gweld fod y gynghrair cymaint yn fwy cystadleuol eleni a fe fyddai yn beth da gweld rhywun heblaw i'r Seintiau yn enill ar ddiwedd y tymor.
|
|
|
Post by claretcymro on Jan 5, 2019 17:03:44 GMT
Caernarfon wedi cymeryd y chweched lle drwy guro Caerfyrddin pnawn yma a bellach dim ond 4 pwynt y tu ol i'r Bala.Dylai fod yn gem dda rhyngddynt dydd Sadwrn nesa.
Dau bwynt yn gwahanu y tri ar y brig ac ar y gwaelod Llanelli yn cau y bwlch rhyngddynt a'r Derwyddon,sydd wedi gadael 15 gol i fewn yn ei 3 gem diwethaf, i ddim ond 5 pwynt.Mae'n edrych yn ddu ar Llandudno ar hyn o bryd - maen't wedi arwyddo tri chwaraewr profiadol o glybiau yn y Cymru Alliance ond mae Llanelli wedi arwyddo cyn chwaraewr Abertawe Leon Britton.
|
|
|
Post by derynglas on Jan 16, 2019 20:19:49 GMT
Adroddiadau ar Mwy o Sgorio hano ac yn y wasg bod nifer o glwbiau yn y pencampwriaeth yn cynnwys Aston Villa a Ipswich wedi bod yn dilyn perfformiadau Macauleu Southam-Hales,cefnwr de Tref Barri. Fyddai colli yr amddiffynwr yn ergyd i gobeithion y clwb sydd ar brig y gyngrair ond fedde nw ddim yn sefyll yn ei ffordd. Y gred yw bod Villa yn awyddys i arwyddo y chwaraewr sydd yn enedigol o Gaerdydd ac wedi cael ei rhyddhau gan clwb y ddinas yn 2017 ar ol 14 tymor gydar timau ieuenctid ac hefyd wedi chwarae i timoedd ieienctid Cymru.
|
|
|
Post by derynglas on Jan 27, 2019 9:52:16 GMT
Dim shocs yn cwpan Cymru ddoe. Torf dda iawn o 2500 yn Nantporth am y gem rhwng Bangor a Caernarfon yn y gem fyw ar S4C neithiwr.Dylyniant sylweddol o Cofis yn mynd adre yn hapus ar ol gweld ei tim yn ennill 2-1,dim ond y trydedd waith ir hen elynion gwrdd yn cwpan Cymru. Di-sgor ar Dol y Bont ar ol 90 munud rhwng Hwlffordd a Bala a gem agos gydar ddau dim yn cael cyfleon ond Bala yn sgorio 4 yn hanner cyntaf amser ychwanegol ar sgor o 4-0 ar y diwedd ddim yn adlewyrchiad or gem ond ffitrwydd Bala yn ennill drwodd yn y diwedd. Cambrian a Clydach yr unig glwb o tu fas Prif Gyngrair Cumru trwodd ir rownd go-gynderfynnol ar ol ennill ar ciciau or smotyn yn erbyn Rhyl ar ol gem gyfartal 2-2 ar ol amser ychwanegol. Y Seintiau Newydd,Met Caerdydd,Llandudno,Barri a Cei Connah yw gweddill yr 8 diwetha.
|
|
|
Post by claretcymro on Feb 2, 2019 20:02:26 GMT
Canlyniad gwych i Gaernarfon pnawn yma a'i buddugoliaeth o 2 - 0 yn erbyn Y Bari yn golygu ei bod yn pasio y Drenewydd ac yn dringo i'r pedwerydd safle. Torf dda eto ar yr Oval gan gynnwys criw bach brwdfrydig oedd wedi teithio yr holl ffordd o Dde Cymru. Dwy gol dda i'r Cofis - y cynta gan Sion Bradley ac yna clincar gan Nathan Craig - yn claddu ceffylau blaen y gynghrair.
|
|
|
Post by derynglas on Feb 3, 2019 17:38:26 GMT
Dau chwaraewr ar i fynu yn wythnos diwetha y ffenestr trosglwyddo. Fel welon ni,Danny Williams yn ymuno a Caerdydd o Hwlffordd a arwyddo del 2 flwyddyn a hanner gyda cwb y brifddinas,gydar tim dan 23 i ddechrau. Hefyd heddiw mae clwb Tref y Barri wedi cadarnhau bod ei cefnwr de Macauley Southam-Hales wedi ymuno a Fleetwood Town yn Cyngrair 1 am bris heb ei cadarnhau. Mae Barri yn disgwyl am cliriad rhyngwladol iddo i aros gyda nw yn Parc Jenner ar fenthig am gweddill y tymor hwn, a fyddau yn newyddion da i ei gobeithion yn y gyngrair eleni.
|
|
|
Post by claretcymro on Feb 3, 2019 19:25:14 GMT
Diolch am yr info am Southam-Hales.Mae hyn yn egluro pam nad oedd yn nhim Y Barri yng Nghaernarfon ddoe - roeddwn yn tybio efallai fod clwb o Gynghrair Lloegr wedi ei arwyddo ond heb weld dim yn y wasg.
|
|
|
Post by derynglas on Feb 17, 2019 9:28:40 GMT
Llongyfarchiadau i Cei Connah sydd wedi cyrraedd rownd derfynol cwpan IRN BRU yr Alban ar ol curo Dinas Caeredin ar ciciau or smotyn ar ol ir gem orffen 1-1 ar ol amser ychwanegol.
Torf o 1068 yn stadiwn Glannau Dyfrdwy (record ir clwb) i weld y Nomadiaid yn creu hanes. Fyddan nw yn chwarae Ross County sydd ar frig y pencampwriaith yr Alban yn y ffeinal mis nesaf.
|
|
|
Post by claretcymro on Feb 26, 2019 0:00:34 GMT
Parhau yn agos iawn ar frig y gynghrair ar ol y gemau dros y dyddiau diwethaf. Y Seintiau Newydd yn cymeryd drosodd ar y top yn dilyn buddugoliaeth hawdd o 3 - 0 ar yr Oval heno yn erbyn Caernarfon. Perfformiad siomedig gan y tim cartref sydd rwan wedi colli ei tair gem diwethaf gan ildio 12 gol. Maen't yn chwarae Cei Connah nos Wener yng Nghwpan Cymru a bydd rhaid dangos mwy o awydd i ymosod os am obaith o barhau yn y gystadleuaeth.Roedd Andy Morrison yn gwylio'r gem heno ond mae'n siwr na fydd yn colli llawer o gwsg ar ol yr hyn a welodd.
|
|
|
Post by derynglas on Mar 19, 2019 22:27:00 GMT
Gem dda iawn yn Salford heno rhwng Lloegr C a CYMRU C. Lloegr yn mynd ar y blaen gyda gol iw rhwyd eu hun gan Nathan Peate, McClaggon or Barri yn unionu cyn y toriad. Cic rhydd gan Willoughby yn rhoi Lloegr ar y blaen eto cyn i Roscrow o Met Caerdydd sicrhau gem cyfartal haeddiannol i Cymru. Giggs a'u tim rheoli yn y dorf hefyd i weld dechreuad calonogol ir wythnos rhyngwladol.
|
|
|
Post by garynysmon on Mar 20, 2019 13:53:52 GMT
Nes i fwynhau hefyd, awygylch da iawn chwara teg. Teimlo fod dau gol Lloegr braidd yn anffodus o'n safbwynt ni a fysa ni wedi gallu ennill i fod yn onest.
|
|
|
Post by claretcymro on Apr 6, 2019 19:06:07 GMT
Pethau yn dechrau cael ei setlo ar ol gemau y penwythnos yma.Gyda tair gem i fynd Mae'r Seintiau bellach 7 pwynt o flaen Cei Connah.Wedi ei gadarnhau mae'r ffaith fod Y Bari yn mynd i orffen o leiaf yn drydydd ac yn chwarae yng Nghwpan Ewropa y tymor nesa a mae Llandudno a Llanelli yn disgyn allan o'r gynghrair. Diddorol yw'r frwydr am y pedwerydd safle gyda Y Drenewydd a Caernarfon yn gyfartal ar bwyntiau ond gwahaniaeth goliau Y Drenewydd un yn well.Mae'r ddau yn cyfarfod ar yr Oval nos Wener nesa.
|
|
|
Post by claretcymro on Apr 16, 2019 12:57:13 GMT
Llongyfarchiadau i'r Seintiau am enill y gynghrair am yr wythfed flynedd yn olynol.Wedi gweld y Seintiau a Cei Connah yn chwarae yn erbyn Caernarfon ar yr Oval yn ystod yr wythnosau diwethaf a 'does dim amheuaeth yn fy marn i fod y tim gorau wedi gorffen ar y brig.
|
|
|
Post by derynglas on May 11, 2019 20:56:00 GMT
Digon o ddrama ar yr Oval heno yn yr ail gem ail gyfle.Torf arall da iawn dros 1200.
Caernarfon yn mynd ar y blaen yn gynnar Darren Thomas penio maewn ar ol cic rhydd. Dathliadau gor-frwdfrydig gan rhai or Cofis!
Baker yn unionur sgor cyn yr egwyl. Goliau yn yr ail hanner gan Rosgrow a Mccarthy yn rhoi rheolaeth ir myfyrwyr. Cic or smotyn braidd yn hallt gan Nathan Craig yn amser ychwanegol yn arwain at diweddglo dramatic ond y Cofis yn metthu unionur sgor ar y diwedd.
Felly Met Caerdydd yn taethio i Bala Sadwrn nesa am diweddglo tymor cyffrous eleni, yn brwudro am y lle diwetha yn Ewrop.
|
|